logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Archif Newyddion 2023 > 'Rhaid atal trasedi erchyll fel hyn rhag ddigwydd eto'

'Rhaid atal trasedi erchyll fel hyn rhag ddigwydd eto' - Sioned Williams

21.02.2023

Mae Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, yn ymateb i'r diweddaraf ynghylch achos llofruddiaeth Logan Mwangi

Sioned Williams mewn siaced werdd

Mae gwelliannau wedi'u gwneud i wasanaethau plant Pen-y-bont ar Ogwr yn ôl arolygwyr, ar ôl i fachgen pump oed gael ei lofruddio gan ei deulu.

Fodd bynnag, dywed Arolygiaeth Gofal Cymru fod angen gwelliannau pellach o hyd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd Logan Mwangi ei lofruddio gan ei fam, ei lys-dad a bachgen yn ei arddegau ym mis Gorffennaf 2021. Cafodd ei gorff ei ollwng yn Afon Ogwr ger ei gartref yn Sarn. Cafodd ei fam Angharad Williamson, ei lys-dad John Cole a Craig Mulligan ddedfrydau oes am ei lofruddiaeth.

Cynhaliwyd y gwerthusiad diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Cymru rhwng 21 a 24 Tachwedd, a chyhoeddwyd adroddiad ddydd Mercher, 15 Chwefror, ac mae’n ddilyniant i werthusiad perfformiad a gynhaliwyd ym mis Mai 2022.

Siaradaodd yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams gyda BBC Wales Today a Newyddion S4C yn ddiweddar ynghylch y datblygiad hwn.

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Sioned Williams:

“Rwy’n croesawu’r gwelliannau ond mae angen gwneud mwy eto i sicrhau na fydd trasiedi erchyll fel hyn byth yn digwydd eto.

“Fel aelod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, rwyf wedi clywed o lygad y ffynnon am effaith y pwysau ar weithwyr cymdeithasol ar blant a phobl ifanc - gyda rhai yn sôn am effaith cael 32 o weithwyr cymdeithasol gwahanol, rhai yn siarad am cael gweithiwr cymdeithasol asiantaeth am wythnos yn unig.

“Galwaf eto ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael yr adnoddau priodol, ac am adolygiad annibynnol o waith cymdeithasol plant ledled Cymru, yn debyg i’r rhai a gynhaliwyd yn Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, fel y galwodd yr Athro Donald Forrester a BASW Cymru amdanynt yn flaenorol.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n pryderu am les unrhyw blentyn, boed yn bryderon o gam-drin corfforol neu emosiynol, esgeulustod neu reolaeth drwy orfodaeth, i roi gwybod i’r awdurdodau perthnasol.”


Manylion cyswllt ar gyfer codi pryderon ynghylch diogelwch plant ar draws rhanbarth Gorllewin De Cymru:

Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr: 01656 642320

Cyngor Castell-nedd Port Talbot: 01639 686802

Cyngor Abertawe: 01792 635700

Yn ôl