Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Archif Newyddion 2023 > Ni'n cydsefyll â chymuned LHDTC+ Uganda
Cydsefyll â chymuned LHDTC+ Uganda
03.04.2023
Mae llefarydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS wedi galw ar Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai sy’n rhan o raglen Cymru ac Affrica yn cael eu gwarchod, yn dilyn deddfwriaeth homoffobig newydd yn Uganda.
Ynegodd Sioned Williams ei solidariaeth hi a’i phlaid ddydd Mercher gyda chymuned LHDTC+ Uganda, yn dilyn deddfwriaeth newydd yn Uganda a allai weld pobl LHDTC+ yn wynebu dedfrydau o garchar am oes neu hyd yn oed y gosb eithaf am fod yn LHDTC+.
Disgrifiodd Sioned Williams, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru yn y Senedd, y ddeddfwriaeth, fydd yn dod i rym os caiff ei lofnodi gan yr Arlywydd Museveni, yn un “warthus”, a gawlodd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn cymryd o ddifrif ei hymrwymiad dros "ddyletswydd ryngwladol Cymru i ddangos arweiniad ar gydraddoldeb".
Mae ffoaduriaid LHDTC+ o Uganda sydd bellach yn byw yng Nghymru wedi siarad yn erbyn y Bil, gan rannu hanesion erchyll am fywyd yn Uganda.
Dywedodd Sioned Williams AS:
"Mae Plaid Cymru wedi bod yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cynllun gweithredu LHDTC+ i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop, ond mae'r cynllun hefyd yn ymrwymo i ddangos dyletswydd ryngwladol Cymru i ddangos arweinyddiaeth ar gydraddoldeb. Mae pobl sy'n uniaethu fel LHDTC+ yn Uganda yn peryglu bywyd yn y carchar a gellid rhoi'r gosb eithaf iddynt mewn rhai achosion, ar ôl i'r Senedd basio'r Bil newydd ffiaidd hwnnw.
"Yn ogystal â gwneud uniaethu fel hoyw yn anghyfreithlon am y tro cyntaf, byddai gan ffrindiau, teuluoedd ac aelodau'r gymuned ddyletswydd i roi gwybod am unigolion mewn perthnasoedd o'r un rhyw i'r awdurdodau. Mae Amnesty wedi dweud: 'Bydd y ddeddfwriaeth ddwfn ormesol hon yn sefydliadoli gwahaniaethu, casineb a rhagfarn yn erbyn pobl LHDTC+...ac yn rhwystro gwaith cyfreithlon cymdeithas sifil, gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol ac arweinwyr cymunedol.'"
"Mae gan Gymru lawer o gysylltiadau ag Uganda trwy raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, lle mae'r ddwy wlad yn gweithio mewn partneriaeth ar wahanol brosiectau a rhaglenni. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y rhai sy'n ymwneud â'r prosiectau hynny, a allai fod mewn perygl difrifol o'r ddeddfwriaeth erchyll hon, yn cael eu hamddiffyn a'u gwneud yn ddiogel, a bod rhaglen Cymru ac Affrica yn cyd-fynd â'r ymrwymiadau rhyngwladol yng nghynllun gweithredu LGBTQ+ Llywodraeth Cymru."
Gwyliwch gwestiwn Sioned Williams isod.
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.