Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Archif Newyddion 2023 > Lambastio Bil Mudo Anghyfreithlon
Lambastio Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth DG
21.06.2023
Neithiwr, fe lambastiodd Sioned Williams AS, Fil Mudo Anghyfreithlon arfaethedig gan ei labelu yn “annynol” ac “anfoesol”.
Wrth siarad yn y Senedd neithiwr, tynnodd Sioned Williams, AS dros Orllewin De Cymru, sylw at yr effeithiau negyddol y byddai’r Bil newydd arfaethedig yn ei gael ar hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac amddiffynnodd hawl y Senedd i wrthod unrhyw ddeddfwriaeth San Steffan sy'n "anghydnaws â gwerthoedd a buddiannau gorau Cymru".
Ddoe, bu Aelodau’r Senedd yn trafod a ddylid rhoi cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil ai peidio. Pleidleisiodd y Senedd yn erbyn.
Yn ystod ei chyfraniad i’r ddadl yn y Senedd, cyfeiriodd Sioned Williams hefyd at yr ymyrraeth wleidyddol brin a welwyd yn ddiweddar gan y Wiener Holocaust Library, sydd â'r casgliad hynaf y byd a mwyaf Prydain yn neunydd archifol gwreiddiol o'r cyfnod Natsïaidd, a fynegodd bryderon ynghylch effaith y Bil Mudo Anghyfreithlon arfaethedig yn ogystal â'r disgwrs a'r iaith sy'n gysylltiedig â'r Bil.
Dywedodd Sioned Williams AS:
“Roeddwn mor falch bod y Senedd wedi pleidleisio ddoe yn erbyn cydsynio i’r Bil Mudo Anghyfreithlon cwbl annynol ac anfoesol, Bil a allai orfodi Cymru i dorri cyfraith hawliau dynol rhyngwladol, yn groes i’n setliad datganoli ein hunain. Mae’r Bil hwn yn anghydnaws, er enghraifft, â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, Confensiwn Ffoaduriaid 1951 a Datganiad Cyffredinol 1948 o Hawliau Dynol.
"Mae’r Bil yn tanseilio buddiannau a hawliau plant yng Nghymru, yn ogystal â'n hymrwymiad i fod yn Genedl Noddfa.
"Rhaid inni, gynrychiolwyr etholedig pobl Cymru, gael y hawl i benderfynu beth sydd o fudd i’n cymunedau ein hunain a phwy y byddem yn eu croesawu i’r cymunedau hynny. Dylai’r Llywodraeth a etholir gan bobl Cymru gael y pwerau i sicrhau nad yw unrhyw ddeddfwriaeth sy’n anghydnaws â gwerthoedd a buddiannau gorau Cymru, megis y Bil anghyfreithlon hwn, yn weithredol yng Nghymru."
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.