Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Archif Newyddion 2023 > AS yn cefnogi gweithwyr addysg uwch
AS yn cefnogi gweithwyr addysg uwch
17.03.2023
Yr wythnos hon, fe alwodd AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams ar Lywodraeth Cymru i lobïo rheolwyr addysg uwch i gyflwyno cynnig teg o ran cyflogau i weithwyr yn gweithio'n y sector ac i wella pensiynau ac amodau.
Ategodd llefarydd ar Addysg Ôl-16, Sioned Williams ei chefnogaeth i aelodau’r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU), sydd wedi cymryd camau diwydiannol i fynnu cyflogau ac amodau teg.
Mae UCU wedi rhybuddio bod llwythi gwaith gormodol yn effeithio ar bob lefel o staff, gydag wythnosau 60 awr yn gyffredin, a niferoedd uchel yn nodi straen, gyda'r materion hyn yn effeithio’n arbennig ar y rheini ar gyflogau isel a chontractau ansicr, fel ymchwilwyr ôl-raddedig.
Mewn cwestiwn i’r Gweinidog Addysg, galwodd Sioned Williams AS am lobïo rheolwyr addysg uwch i gyflwyno cynnig teg o ran cyflogau ac i wella pensiynau ac amodau.
Aeth Sioned Williams ymlaen i ddweud:
“Mae UCU Prifysgol Abertawe wedi galw am gyfarfod pum ffordd rhwng y prifysgolion, y cyrff llywodraethu, UCU, a Llywodraethau Cymru a San Steffan i geisio cyllid pontio brys ar gyfer y staff ymchwil a ddiswyddwyd y mis hwn o ganlyniad i dynnu’r cronfeydd strwythurol yn ôl, a blaengynllunio ar gyfer economi wybodaeth sydd wedi'i hinswleiddio rhag polisïau ariannu stop-start. Felly, beth fu ymateb Llywodraeth Cymru i hyn?"
Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.