Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Archif Newyddion 2021 > Ymrwymo i bolisi ar brydau ysgol am ddim
Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i bolisi ar brydau ysgol am ddim
22.11.2021
Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS, wedi croesawu’r Cytundeb Cydweithio newydd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys ymrwymiad allweddol i gyflwyno prydau bwyd ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Mae'r Cytundeb hefyd yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gefnogi datganoli gweinyddiaeth lles i Gymru.
Dywedodd Sioned Williams:
“Rwyf wedi bod yn galw’n gyson am gymryd camau radical i wella bywydau pobl Cymru, yn enwedig bywydau’r tlotaf a’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, drwy ehangu’r ddarpariaeth dros brydau ysgol am ddim a chefnogi datganoli’r grymoedd dros weinyddu lles i Gymru. Rwy’n falch iawn y bydd y polisïau hyn bellach yn cael eu mabwysiadu.
“Bydd manteision cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn drawsnewidiol. Bydd yn rhoi gwell cyfle i fwy o blant mewn bywyd – trwy wella iechyd ac, yn ei dro, gwella canolbwyntio. Bydd wirioneddol yn rhoi gwell cyfle i blant gyrraedd eu potensial addysgol.
“Dyma’r cam cyntaf tuag at wireddu ein polisi o brydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion uwchradd, yn ogystal ag ysgolion cynradd – byddaf yn parhau i roi pwysau i weithredu hyn yn llawn, fel nad oes unrhyw blentyn yn cael eu gadael ar ôl yn llwglyd.
“Ac ar fater lles: byddai datganoli gweinyddiaeth lles i Gymru yn caniatáu inni liniaru effeithiau gwaethaf llymder.
“Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno gofal plant am ddim i holl blant dwy oed, cryfhau hawliau pobl LHDT+ a rhoi terfyn ar ddigartrefedd.
“Pan mae cyfle’n ymddangos i weithredu newid er gwell, credaf y dylid ei gymryd. O ganlyniad i’r Gytundeb Cydweithio, mae polisïau radical bellach yn rhan o raglen bolisi Llywodraeth Cymru."
Mae cyllid wedi'i neilltuo fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y Gyllideb ddrafft pan gaiff ei chyhoeddi fis Rhagfyr.
Bydd yr ymwneud gwleidyddol ynglŷn ag unrhyw faterion nad ydynt yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio yn digwydd yn ôl y drefn arferol.