logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Archif Newyddion 2021 > Galw i beidio ag esgeuluso cymunedau’r Cymoedd

Galw i beidio ag esgeuluso cymunedau’r Cymoedd’ yng nghynlluniau Metro

12.11.2021

Mae AS dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi annog y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, i “wella’n sylweddol” y cynlluniau cyfredol i adeiladu Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru gan fod y cynlluniau fel ag y maen nhw’n “anwybyddu fwy neu lai yn llwyr” Cymoedd Tawe ac Afan

platfform gorsaf reilffordd wag

Cododd Sioned Williams y mater yr wythnos hon yn y Senedd, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o fapiau rhagarweiniol yn amlinellu’r llwybrau newydd arfaethedig. Mewn ymateb, cyfaddefodd y Gweinidog fod “llawer mwy y mae angen i ni ei wneud yn y de orllewin.”

Dywedodd Sioned Williams:

“Bythefnos yn ôl, wrth ddatgan bod argyfwng hinsawdd yn golygu bod angen i ni newid ein ffordd o deithio, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar gyfer metro bae Abertawe a gorllewin Cymru, gan nodi bod 17% o allyriadau carbon yng Nghymru yn dod o drafnidiaeth, a'n bod felly angen i bobl symud i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.

“Mae mapiau o’r cynlluniau arfaethedig yn cynnwys bylchau mawr o ran datblygu trafnidiaeth i wasanaethu Cymoedd Tawe ac Afan - mae’r cymunedau hyn yn cael eu hanwybyddu fwy neu lai yn llwyr yn y cynigion cyfredol.”

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Gofynnais i Lywodraeth Cymru egluro pam nad oes bwriad, hyd yn oed yn yr hirdymor, i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymoedd Tawe ac Afan i helpu preswylwyr i gael mynediad hawdd at drafnidiaeth.

“Cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog ei fod yn cytuno â fy nadansoddiad bod Cymoedd Tawe ac Afan mewn perygl o gael eu gadael ar ôl yn y cynlluniau hyn. Ni welaf felly unrhyw reswm pam na all y Llywodraeth wella'r cynigion hyn yn sylweddol. Mae'n hollbwysig nad yw Llywodraeth Cymru'n esgeuluso cymunedau'r Cymoedd. Ni ddylai unrhyw gymuned yn y de orllewin gael ei gadael ar ôl gan y cynlluniau hyn.”

Yn ôl