logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod Senedd Plaid Cymru dros Brycheiniog Tawe Nedd

Hafan > 6 Senedd > Newyddion > Archif Newyddion 2021 > AS yn galw ar yr Ombwdsmon i adolygu penderfyniad

AS Cymru yn galw ar yr Ombwdsmon i adolygu penderfyniad am gyn-Arweinydd Cyngor CNPT

11.08.2021

ystafell fwrdd wag gyda byrddau a chadeiriau papur a pencil ar y bwrdd

Mae AS  Sioned Williams wedi galw ar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i adolygu’r penderfyniad nad oedd cyn-arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones, wedi torri Côd Ymddygiad y cyngor.

Cyhoeddwyd y sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol ar Fawrth 5ed 2021. Cyhoeddodd yr Ombwdsmon y penderfyniad ar Orffennaf 20fed gan nodi nad oedd y Cynghorydd Jones wedi torri'r côd ymddygiad ar gyfer aelodau awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae paragraff 7 (b) (v) o'r Cod hwnnw, yn nodi "rhaid i aelodau beidio â defnyddio, nac awdurdodi eraill i ddefnyddio, adnoddau eu hawdurdod yn amhriodol at ddibenion gwleidyddol", tra bod paragraff 6 1 (a) yn nodi "rhaid i aelodau beidio ymddwyn mewn modd a allai yn rhesymol fod wedi dwyn anfri ar eu swyddogaeth neu eu hawdurdod ".

Dywedodd AS Sioned Williams:

“Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ombwdsmon yn galw arno i adolygu ei benderfyniad nad yw’r Cynghorydd Rob Jones wedi torri’r Côd Ymddygiad.

“Ar ôl gwrando ar y recordiad a darllen casgliad adroddiad yr Ombwdsmon, mae’n anodd deall y penderfyniad

“Mae penderfyniad yr Ombwdsmon yn nodi ei fod wedi ymchwilio i’r honiadau a’i fod yn teimlo nad yw paragraff 7 (b) (v) wedi’i dorri.

“Nid oes amheuaeth bod ei ymddygiad wedi tanseilio hyder y cyhoedd yn y Cyngor, ac nid yw adroddiad yr Ombwdsmon wedi adfer enw da y Cyng.Jones, na hyder pobl leol bod y Cyngor wedi bod yn gweithredu’n rhydd o ddylanwad pleidiol. Mae angen adolygu’r penderfyniad. ”

Yn ôl