Herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod fferyllfa ychwanegol ym Mhontardawe

Yr wythnos hon, fe heriodd Sioned Williams, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru benderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cefnogi galwadau am fferyllfa ychwanegol ym Mhontardawe.

Mae'r Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam eu bod yn "rhwystro ple etholwyr a meddygon teulu am well gwasanaethau fferylliaeth".

Nid yw gwasanaethau fferyllol ym Mhontardawe wedi gallu ymdopi â’r galw cynyddol ac mae cleifion yn aml yn gorfod aros dros awr a hanner am eu presgripsiynau. Yn dilyn pryderon a godwyd gan bobl Pontardawe, cyflwynwyd cais i agor fferyllfa ychwanegol ym mis Tachwedd 2020. Fodd bynnag, gwrthodwyd y cais hwn gan y bwrdd iechyd ym mis Medi 2021.

Yn fuan wedyn, cyflwynwyd a chefnogwyd apêl gan gynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru, meddygon teulu, a thrigolion ar draws y cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Amlygodd yr apêl werth tair blynedd o gwynion a defnydd o fap anghywir i bennu anghenion y boblogaeth. Yn dilyn hynny, gwrthodwyd yr apêl gan Weinidogion er gwaethaf cydnabyddiaeth o sawl diffyg yn rhesymau’r Byrddau Iechyd dros wrthwynebu rhai o’r dadleuon a gyflwynwyd gan y gymuned, a oedd yn cynnwys pob un o’r meddygon teulu o blaid fferyllfa ychwanegol i’w gwasanaethu.

Ysgrifennodd Sioned Williams lythyr at y Gweinidog Iechyd ddechrau mis Hydref yn herio'r penderfyniad i wrthod yr apêl. Daeth â’r mater i sylw hefyd yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidogion ddoe.

Dywedodd Sioned Williams AS:

“Dros y ddegawd ddiwethaf, mae gwasanaethau a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol wedi cynyddu, ond mae nifer y fferyllfeydd cymunedol wedi aros yn weddol sefydlog, er gwaethaf galwadau gofal iechyd cynyddol a diwygiadau sydd wedi eu cyflwyno er mwyn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer timau fferylliaeth gymunedol. Ond mae nifer o’m hetholwyr wedi codi pryderon â mi ynghylch gwasanaethau fferyllol annigonol yn yr ardal.

"Ym Mhontardawe, mae cleifion yn aml yn gorfod aros dros awr a hanner am eu presgripsiynau. Fodd bynnag, gwrthodwyd cais i agor fferyllfa ychwanegol gan y bwrdd iechyd a gwrthodwyd yr apêl gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf derbyn rhai o'r dadleuon a gyflwynwyd, gan gynnwys bob un o’r meddygon teulu oedd o blaid fferyllfa ychwanegol i gwasanaethu'r ardal. Fel rhan o’r cynllun 10 mlynedd, ‘Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach’, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella profiad cleifion ac i darparu gofal fferyllol di-dor.

“Fodd bynnag, mae’r realiti ar lawr gwlad yn rhoi darlun gwahanol; drwy wrthod caniatáu cynnydd mewn capasiti ym Mhontardawe, mae’r Llywodraeth mewn gwirionedd yn rhwystro ei chynllun 10 pwynt ei hun.”

Cliciwch yma i wylio cwestiwn Sioned Williams 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd