Llongyfarch Cyngor CNPT am gynnydd ‘cyflym’ wrth ddarparu prydau ysgol am ddim ychwanegol

Croesawodd AoS Plaid Cymru Sioned Williams y cyhoeddiad heddiw y bydd £70 miliwn o gyllid ar gael i gefnogi’r cam nesaf o ehangu prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru, diolch i’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Aeth yr AoS ymlaen i ganmol Cyngor CNPT am fynd ati’n “gyflym” i weithredu prydau ysgol am ddim yn y fwrdeistref sirol ar ôl ymweld ag ysgol leol.

Castell-nedd Port Talbot, sydd dan reolaeth glymbleidiol rhwng Plaid Cymru a chynghorwyr Annibynnol, yw un o’r awdurdodau lleol sydd wedi llwyddo i fwrw ymlaen â’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim y gyflymaf.

Fis diwethaf, fe ehangwyd darpariaeth prydau ysgol am ddim yn ysgolion Castell-nedd Port Talbot i gynnwys plant ym mlynyddoedd 3 a 4. O ganlyniad, mae 1,908 o blant ychwanegol yn y fwrdeistref sirol bellach yn derbyn prydau ysgol am ddim.

Gwelodd Sioned Williams AoS y polisi hwn ar waith yn ystod ymweliad diweddar ag Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur gyda Chynghorydd Plaid Cymru ac Aelod Cabinet Addysg CNPT, Nia Jenkins.

Dywedodd Sioned Williams, AoS Gorllewin De Cymru a llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau:

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i sicrhau gweithrediad cyflym a llwyddiannus y polisi prydau ysgol am ddim newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

“Roedd yn wych gweld y gwahaniaeth y mae’r polisi pwysig hwn yn ei wneud i les disgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn ystod fy ymweliad yno gyda Chynghorydd Plaid Cymru ac Aelod Cabinet Addysg CNPT, Nia Jenkins.

“Ers cael fy ethol i’r Senedd, ac fel llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, rwyf wedi bod yn galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn. Diolch i ddylanwad Plaid Cymru yn y Cytundeb Cydweithio, rydym bellach yn gweld gweithredu cam cyntaf hollbwysig tuag at gyflawni hyn, drwy gynnig prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw y bydd £70 miliwn o gyllid ar gael i gefnogi’r cam nesaf o ehangu prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru yn dangos y gwahaniaeth cadarnhaol y mae Plaid Cymru yn ei wneud ym mywydau pobl.

“Ond bydd y disgyblion sy’n derbyn eu prydau poeth, maethlon yn adran gynradd Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur o bosibl yn llwgu unwaith eto pan fyddant yn symud i Flwyddyn 7 yr un ysgol; mae’n angenrheidiol felly bod y ddarpariaeth hon hefyd yn cael ei hymestyn i ddisgyblion uwchradd.

“Mae Plaid Cymru yn credu bod rhaid rhoi’r un cyfle i bob plentyn lwyddo yn y dosbarth ac mewn bywyd.”

Bydd y cam nesaf o ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd yn dechrau ym mis Medi 2023, a’r nod yw cynyddu’r cynnig i’r rhan fwyaf o ddysgwyr ym mlynyddoedd tri a phedwar. Bydd y cynllun wedyn yn ehangu ymhellach ym mis Ebrill 2024, gan gyrraedd blynyddoedd pump a chwech. Pan fo awdurdodau lleol yn gallu cyrraedd y grwpiau blwyddyn hyn cyn y cerrig milltir uchod, maen nhw wedi’u hariannu i wneud hynny.

Mae £260m wedi'i ymrwymo i weithredu'r rhaglen yng Nghymru dros dair blynedd. Roedd hyn yn cynnwys £60m o gyllid cyfalaf ar gyfer awdurdodau lleol a fuddsoddwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gefnogi gwelliannau i gyfleusterau ceginau ysgol, gan gynnwys prynu offer a diweddaru systemau digidol.

Fel rhan o Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, bydd pob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024.

Mae mwy na £1.5m yn cael ei fuddsoddi mewn gwella ceginau ysgol a diweddaru offer yn CNPT er mwyn sicrhau yn y pen draw fod pob plentyn cynradd yn gallu cael pryd rhad ac am ddim, iach a maethlon yn yr ysgol.

Ymwelodd Sioned Williams ag Ysgol Gynradd Alltwen ym mis Medi 2022, pan estynnwyd prydau ysgol am ddim i bob plentyn oed derbyn yn CNPT am y tro cyntaf.

Dywedodd Nia Jenkins, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor CNPT a Chynghorydd Plaid Cymru:

“Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw presennol, mae’r Cyngor yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn y fwrdeistref sirol yn newynu ac rwy’n falch ein bod wedi dechrau ar y gwaith o gyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cynradd o flaen yr amser a nodwyd yn wreiddiol.”

Mae rhieni ar fudd-daliadau (sy’n golygu bod eu plentyn eisoes yn gymwys i dderbyn pryd ysgol am ddim) yn cael eu hannog i gofrestru am bryd ysgol am ddim os nad ydynt wedi gwneud eisoes, gan y gallant fod yn gymwys i dderbyn Grant Hanfodion Ysgol (SEG).

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd