AS Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw cymunedau’r cymoedd yn cael eu hesgeuluso yng nghynlluniau Metro Bae Abertawe

Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod opsiynau trafnidiaeth rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn yn cael eu harchwilio'n llawn i wasanaethu cymunedau'r cymoedd yn Ne Orllewin Cymru fel rhan o brosiect Metro Bae Abertawe.

Ffurfiwyd y weledigaeth o ddatblygu’r Metro, a allai gynnwys ailagor llinellau rheilffordd a defnyddio rheilffyrdd ysgafn a bysiau, ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad Cynulliad 2016.

Yn 2017, fel rhan o gytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, cytunodd Llywodraeth Cymru wedyn  i ariannu astudiaeth ddichonoldeb i'w ddatblygiad.

Mae Plaid Cymru wedi pwysleisio yn gyson bod yn rhaid i Metro Bae Abertawe gynnwys gwelliannau trafnidiaeth ar gyfer cymunedau cymoedd y rhanbarth.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori ar ddatblygiad Metro Bae Abertawe, gyda’r dyddiad cau ar gyfer sylwadau ar Fehefin 10fed 2021.

Cododd Sioned Williams y mater ar lawr y Senedd ar y diwrnod hwnnw gyda Threfnydd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths.

Dywedodd Sioned Williams:

“Mae’n amlwg, wrth edrych ar lefel y tagfeydd a’r llygredd mewn rhannau o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fod angen i ni wella’r system drafnidiaeth gyhoeddus yn lleol yn sylweddol. Mae yna hefyd ddiffyg mawr o ran opsiynau trafnidiaeth yn gwasanaethu cymunedau ein cymoedd sy'n golygu bod pobl yn aml yn cael eu gorfodi i ddefnyddio eu ceir yn hytrach na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers amser dros fetro yn Ne Orllewin Cymru wrth gwrs, ond credwn fod yn rhaid i’r metro gynnwys gwasanaethau rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn i’n cymunedau yn y cymoedd ac ni all ganolbwyntio ar Abertawe a threfi mawr eraill yn unig.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth ddifrifol i ailgyflwyniad posib wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr neu reilffyrdd ysgafn ar gyfer Nghwm Tawe a Dyffryn Aman cyfan. Mae bylchau hefyd o ran opsiynau trafnidiaeth i gymoedd eraill, megis cymoedd Dulais, Nedd ac Afan.

“Mae angen ymrwymiad cadarn arnom y bydd hyn yn rhan o agenda Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

“Yn dilyn y cyfnod ymgynghori a ddaeth i ben yr wythnos hon, mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu ei safbwynta chyflwyno cynlluniau cadarn ar gyfer y Metro cyn gynted â phosibl.

“Byddai datblygu Metro Bae Abertawe heb opsiynau rheilffordd na rheilffyrdd ysgafn ar gyfer ein cymunedau yn y cymoedd yn gyfystyr â cholli cyfle sylweddol a allai niweidio’r cymunedau hynny yn economaidd.

“Mae angen i ni ddatblygu system wirioneddol integredig sy’n galluogi pobl ledled De Orllewin Cymru i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel. Rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â chaniatáu i Gymoedd y Gorllewin gael eu hesgeuluso. ”

Train track

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd