Fy Wythnos 13-19 February 2023

Golwg sydyn ar wythnos brysur arall!

Codais bryderon gyda Llywodraeth Cymru ynghylch effaith torri cyllid gwasanaethau bysiau ar draws Gorllewin De Cymru ac yng Nghastell-nedd Port Talbot yn benodol. https://www.sionedwilliams.cymru/serious_concerns_over_bus_funding_withdrawal

Siaradais ar BBC Wales Today a Newyddion S4C am yr angen i fynd i’r afael â phwysau ar wasanaethau cymdeithasol plant ledled Cymru yn sgil llofruddiaeth drasig Logan Mwangi.

Ges i ymweliad gwych â Choleg CNPT i gwrdd â’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Catherine Lewis a’r Is-Bennaeth ar gyfer Cysylltiadau Allanol a Llywodraethiant, Gemma Charnock. Cawsom ni drafodaeth ddiddorol iawn ar rôl allweddol Coleg CNPT yn y gymuned leol a sut mae’n cefnogi’r agenda cynaliadwyedd.

Mewn dadl yn y Senedd, galwais am roi mwy o gymorth ariannol i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel drwy gynyddu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

In a meeting of the Senedd Cross Party Group on Disability we heard more about the importance of habilitation training from Guide Dogs Cymru. I also spoke in favour of ensuring sight impaired children in all parts of Wales get access to this vital service in a debate in the Senedd yesterday.

Es i fore coffi a drefnwyd gan Gysylltiadau Cymunedol Dyffryn Clydach, Castell-nedd i glywed sut mae trigolion yn ymdopi â’r argyfwng costau byw. Mae’r boreau coffi poblogaidd hyn, sy’n cael eu cynnal bob wythnos, yn rhoi cyfle i bobl fwynhau paned a sgwrs gyda ffrindiau a chymdogion. Clywais am waith Cysylltiadau Cymunedol Dyffryn Clydach a’r amrywiaeth eang o bethau maen nhw’n darparu, gan gynnwys nosweithiau celf a chrefft, rhannu bwyd, nosweithiau cwis i’r teulu a llawer mwy. Mae grwpiau gwirfoddol fel hyn yn gwneud gwaith anhygoel ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Cymerwch olwg ar eu tudalen am fwy o wybodaeth : https://www.facebook.com/Dyffrynclydachcommunitylinks

Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)

People around a table smiling at camera

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd