Academi Sgiliau yn "hollbwysig" wedi ergyd swyddi Tata Steel, medd Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd yn rhoi sêl bendith i Ganolfan Ragoriaeth ym Mhort Talbot

Sioned a team JES

Sioned Williams MS (Plaid Gorllewin De Cymru) canol, yng Nghanolfan Ragoriaeth JES ym Mhort Talbot gyda prentisiaid JES  a (o chwith i dde) Sam Owen (Arweinydd Prosiect), Laurence Wood (Repsar - Ymgynghorydd Prosiect), Cng. Andrew Dacey (Plaid - Ward Aberafan) a Jake Neale (Hyfforddwr Academi JES)

Mae Sioned Williams, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru wedi galw am weithredu ar fyrder i gefnogi mentrau sy'n cynyddu'r sylfaen sgiliau yn ardal Port Talbot.

Un fenter o'r fath yw JES Group Ltd o Bort Talbot sydd wedi lansio Academi Sgiliau JES – canolfan ragoriaeth ar gyfer datblygu sgiliau Saernïo a Weldio sy'n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant, yr ymgyrch sero net a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil y porthladd rhydd Celtaidd.

Bydd yr Academi yn cynnig ystod lawn o gyrsiau hyfforddi arbenigol ar gyfer pawb - yn ddisgyblion ysgol, yn brentisiaid, yn weldwyr presennol sydd angen datblygiad proffesiynol parhaus, a cheiswyr gwaith sy'n chwilio am lwybrau i ymuno â’r diwydiant. Y nod yw sicrhau bod y broses o ddysgu sgiliau Saernïo a Weldio yn addas i’r dyfodol a sicrhau canolfan hyfforddi gyfunol o safon gydag atebion sy'n mynd i'r afael â'r prinder sgiliau yn y diwydiant Saernïo a Weldio ledled y De-orllewin.

Mae Ms Williams wedi galw am ddefnyddio unrhyw arian sydd ar gael gan TATA neu'r Bwrdd Pontio ar gyfer mentrau fel Academi Sgiliau JES sy’n gallu uwchsgilio gweithwyr sydd am fachu ar gyfleoedd yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Meddai Sioned Williams, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Gorllewin De Cymru:

“Mae'r prosiect hwn yn arloesol ac yn uchelgeisiol, mae ganddo strwythur ac mae’n ymateb i angen cydnabyddedig – sef diogelu swyddi presennol a helpu i greu mwy o swyddi. Mae prinder weldwyr ar draws Cymru, ac mae hyn yn arbennig o wir yn y De-orllewin.

“Wrth i'r rhanbarth geisio dygymod â newyddion trychinebus TATA Steel, rhaid rhoi pwyslais ar ailhyfforddi ac ailsgilio er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cadw eu swyddi ac yn pontio i weithgynhyrchu dur carbon-niwtral. Does gennym ni ddim gobaith denu'r mewnfuddsoddiad angenrheidiol ac elwa ar y cyfleoedd a ddarperir gan y Diwydiant Ynni Adnewyddadwy a'r ymgyrch i economi Sero Net, heb weithlu hyfedr, a bydd academïau sgiliau fel yr un a lansiwyd gan Grŵp JES yn chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth.

“Am y rheswm hwnnw, dylai unrhyw arian sydd ar gael gan TATA neu'r Bwrdd Pontio i gefnogi mentrau fel hyn gael ei ddefnyddio felly.

“Mae'r Academi Sgiliau yn anfon neges glir i'r diwydiant ynni adnewyddadwy mai De-orllewin Cymru, gyda Phort Talbot yn ei ganol, yw'r lle i ddod â'u busnesau i – rydyn ni’n barod i’ch croesawu a bodloni’ch gofynion diwydiannol.

“Mae fy nghydweithiwr y Cynghorydd Andrew Dacey (Plaid-Ward Aberafan) ac eraill yng Nghlymblaid Enfys Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ochr yn ochr â swyddogion CBS Castell-nedd Port Talbot, wedi gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi'r prosiect hwn trwy Gyllid Ffyniant Gyffredin y DU ac rwy'n adleisio cydnabyddiaeth JES o bwysigrwydd eu cymorth nhw.”

Meddai Sam Owen, llefarydd ar ran JES,

“Cafodd yr Academi Sgiliau ei chreu'n wreiddiol fel ffordd o wella'r hyfforddiant yr oedd JES Group yn ei ddarparu i’w rhaglen brentisiaethau ei hun. Roeddem ni angen sicrhau bod ein prentisiaid yn barod ar gyfer y diwydiant ac mewn sefyllfa i gyfrannu’n gadarnhaol at fyd gwaith yn syth ar ôl cwblhau’r hyfforddiant. Mae ein nodau a'n hamcanion gwreiddiol wedi datblygu'n gyflym iawn. Bellach, mae gennym Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer de Cymru yn ei chyfanrwydd.

“Wedi'i lleoli ym Mhort Talbot, mae'r Academi yn gwbl gynhwysol ac yn cynnig mynediad hawdd i hyfforddiant ymarferol a mentora gan hyfforddwyr arbenigol. Gan fanteisio ar y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf, mae’r Academi yn gallu derbyn unrhyw un, o’r rhai sy’n dymuno cael blas ar y gwaith neu ymuno â’r diwydiant am y tro cyntaf, i eraill sydd am hogi eu sgiliau weldio cyfredol i’r lefelau uchaf posib, ac mae’n darparu’r cyfleoedd a’r llwybrau i bob un wneud hynny.

“Yn ddiweddar fe wnaethom wahodd Sioned Williams AS a'r Cynghorydd Andrew Dacey (Aberafan) i gyfarfod arbennig i ddiolch iddyn nhw am y gefnogaeth aruthrol a gawsom wrth wireddu’r prosiect hwn. Buom yn ddigon ffodus ar hyd y daith i gael cymorth a chyngor gwych gan swyddogion CBS Castell-nedd Port Talbot ac aelodau etholedig Clymblaid yr Enfys y Fwrdeistref Sirol – mae pob un ohonyn nhw wedi rhoi cymorth enfawr i ni a’n helpu i gael gafael ar arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Heb eu cymorth a’u cysylltiadau nhw, fyddai’r prosiect unigryw ac eithriadol hwn ddim yn bosib.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd