Ofnau bod y penderfyniad i gau M&S Castell-nedd wedi'i wneud yn barod

“Ffocws ar ddinasoedd" yn arwydd pryderus o bethau i ddod i drefi Cymru

A photograph of the store front of Marks and Spencers in Neath

Yn ddiweddar, ysgrifennodd Sioned Williams AS, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, at Marks and Spencer i fynegi pryderon am y bwriad i gau'r siop yng Nghastell-nedd, ac i ofyn am ffigurau gwerthiant ar gyfer y siop ac i ganfod a oes opsiynau eraill wedi cael eu hystyried a fyddai'n cynnal presenoldeb y brand yng nghanol tref Castell-nedd.

Mae Ms Williams, yr unig Aelod o'r Senedd sydd â swyddfa etholaeth yng Nghastell-nedd, wedi mynegi pryderon yn y gorffennol y byddai cau'r siop yn "lladd y dref".

Mewn ymateb i lythyr Ms Williams, cadarnhaodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Marks and Spencer y DU ac Iwerddon fod eu "perfformiad gwerthiant a'u gwerthiant cyffredinol" wedi gostwng 9.3% dros y degawd diwethaf, er, fel mae Ms Williams yn nodi:

“Nid yw'r llythyr yn cadarnhau faint o'r dirywiad hwnnw sydd wedi bod ers COVID, ac nid yw'n cadarnhau a yw'r siop yn parhau i fod yn broffidiol, er gwaethaf y gostyngiad mewn elw.”

Mae Cyfarwyddwr Gweithrediadau M&S yn mynd ymlaen i gadarnhau nad yw siop Castell-nedd yn addas i'w ad-drefnu i fod yn neuadd fwyd, ac nad yw'r cwmni'n bwriadu adleoli i safle llai, sydd wedi arwain Ms Williams i ddod i'r casgliad bod y penderfyniad eisoes wedi'i wneud.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Rwy'n credu bod canol ein trefi yn parhau i fod yn ganolfannau i’n cymunedau, a Chastell-nedd yn enwedig, gyda'i marchnad wych, ei gorsaf reilffordd ar y brif linell ac amrywiaeth o siopau a chaffis. Dyma un o'r rhesymau pam y dewisais i leoli fy swyddfa etholaeth yma.

“Mae manwerthu ar draws y bwrdd wedi cael ei effeithio gan COVID ac mae'r rhan fwyaf o siopau wedi teimlo ergyd y cynnydd mewn costau ar eu helw. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â gwneud 'ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt', mae angen iddyn nhw gymryd mwy o gamau i sicrhau bod busnesau'n gallu rhedeg yno.

“Os nad yw'r adeilad M&S presennol yn addas mwyach, os yw costau adnewyddu yn rhy uchel, ac nad ydynt yn bwriadu adleoli i un o'r unedau newydd neu wag yng nghanol y dref, nac ad-drefnu i fod yn neuadd fwyd, ni allaf weld pa opsiwn arall sy'n weddill ar gyfer y siop werthfawr hon. Rwy'n ofni bod y penderfyniad i gau'r siop eisoes wedi'i wneud.

“Bydd hon yn ergyd drom i'r dref a'i thrigolion. Er bod M&S yn honni y bydd cau siop Castell-nedd yn golygu y gall barhau i fuddsoddi mewn siopau eraill yng Nghymru, gan gynnwys ei siopau presennol yng Nghaerdydd ac Abertawe, a siopau newydd yn Llandudno a Wrecsam, nid yw hyn yn helpu pobl Castell-nedd, sydd wedi gwasanaethu'r cwmni a'i helpu i wneud elw dros gynifer o ddegawdau.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd