Plaid Cymru yn cyhoeddi cyllid i fynd i'r afael â llifogydd

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru fuddsoddiad cyllideb cyfalaf 3 blynedd o £102 miliwn ar gyfer rheoli risg llifogydd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio. 

Flood road side warning

Nod y cyllid hwn yw helpu cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd drwy ddarparu amddiffynfeydd hanfodol. Daw hyn ochr yn ochr â chyllideb refeniw hanfodol a fydd hefyd yn cefnogi’r ystod lawn o waith rheoli llifogydd sydd ei angen arnom ledled y wlad. 

Bydd cynlluniau ar draws Gorllewin De Cymru yn elwa o'r cyllid hwn, gan gynnwys Nant Cryddan yng Nghastell-nedd, Pentrebeili Place yn Lewistown a Sgwâr Cilâ yn Abertawe. 

Dywedodd Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams: 

“Rwy’n falch iawn fod Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol i fynd i’r afael â llifogydd yng Ngorllewin De Cymru ac ar draws y wlad. Wrth i effeithiau newid hinsawdd waethygu, a byddant yn wir yn gwaethygu yn ystod ein hoes ni, ac yn ystod bywydau cenedlaethau’r dyfodol, bydd mwy o lifogydd yn effeithio ar fwy a mwy o ardaloedd. Bydd mwy o bobl yn dechrau poeni pan fydd hi’n dechrau bwrw glaw – yn poeni y bydd eu cartrefi, eu busnesau, eu cymunedau, yn cael eu difrodi gan ddŵr llifogydd. 

“Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd gynyddu buddsoddiad mewn dulliau naturiol o reoli llifogydd. Er bod amddiffynfeydd ‘caled’, megis waliau amddiffyn, yn angenrheidiol i ddiogelu eiddo, nid oes digon o bwyslais yn cael ei roi ar adfer natur fel rhan o leihau perygl llifogydd, megis adfer mawndiroedd yn llawn, a morfeydd heli, plannu coed, ailgyflwyno afancod, a chynyddu mannau gwyrdd ac ardaloedd storio dŵr mewn ardaloedd trefol, gan gynnwys cael gwared ar arwynebau caled i wella draeniad. Dim ond drwy gynnwys y mesurau fel rhan o’r ateb y byddwn yn gallu lliniaru effeithiau, ac atal, llifogydd yn y tymor hir. 

“Yn ogystal, mae angen llawer mwy o gymorth i helpu aelwydydd sydd mewn risg uehcel o lifogydd allu gwrthsefyll llifogydd a sicrhau eu bod wedi’u hyswirio’n ddigonol.” 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd