Hen fam-gu AS ar ddeiseb heddwch hanesyddol

“Llais fy nghyn-famau yn galw arna i drwy'r degawdau ac yn ateb fy nghwestiynau” – Sioned Williams AS

A photograph of the letter bound front cover of the 'Memorial' containing an appeal for peace

Ym mis Chwefror 1924, glaniodd pedair menyw o Gymru yn Efrog Newydd, gan ddal tusw o gennin pedr, ‘cofeb’ rwymedig oedd yn cynnwys apêl am heddwch, a deiseb wedi’i llofnodi gan 390,296 o fenywod Cymru yn galw ar fenywod America i ddefnyddio eu dylanwad i annog llywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd fel modd o osgoi rhyfel yn y dyfodol.

Ar 21 Chwefror 1924 – union 100 mlynedd i’r diwrnod – cafodd y menywod hynny apwyntiad arbennig iawn gyda’r Arlywydd Calvin Coolidge yn y Tŷ Gwyn, lle dangoson nhw’r Apêl am Heddwch iddo, a sicrhau addewid y byddai'r llofnodion yn cael eu cadw yn Amgueddfa y Smithsonian am byth.

O’r 390,296 llofnod hynny, mae gan un arwyddocâd arbennig i wleidydd Cymreig, Sioned Williams AS. Bessie Evans o Price Street yn Rhymni, yw hen famgu Ms Williams, a gellir gweld ei henw ar y ddeiseb ochr yn ochr â'i dwy ferch hynaf.

A photograph of Bessie Evans with two of her grandchildren. The child on the right is the father of Sioned Williams MS.

I Ms Williams, mae’n anfon “neges bwysig, glir” mai “pobl gyffredin, fel fy hen fam-gu, sydd wastad yn talu pris uchel rhyfel”, a bod “angen i Gymru godi ei llais fel cenedl ar lwyfan y byd heddiw, yn union fel y gwnaeth ganrif yn ôl.

Heddiw (dydd Mercher 21 Chwefror), 100 mlynedd i'r diwrnod, bydd Sioned Williams AS yn nodi'r achlysur drwy arwain dadl yn y Senedd i ddathlu can mlwyddiant y digwyddiad hwn, a gofyn pa arwyddocâd sydd ganddo ar gyfer rôl Cymru wrth godi llais dros heddwch heddiw.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AS:

“Roedd gweld enw fy hen famgu yngyd ag enwau ei dwy ferch hynaf Bopa Miriam a Bopa Elizabeth, chwiorydd fy mamgu, yn brofiad gwefreiddiol ac emosiynol. Roedd hefyd yn neges bwysig a chlir o’r gorffennol - llais fy nghyn-famau yn galw ataf drwy’r degawdau ac yn ateb fy nghwestiwn i.

“Roedden nhw wedi llofnodi’r ddeiseb yma am eu bod yn deall i’r dim mai pobl gyffredin, dlawd fel nhw oedd yn talu pris uchel rhyfel. Roedd eu cred ym mhwysigrwydd cydweithredu rhyngwladol a gweithio i ddatrys gwrthdaro yn heddychlon yn mynnu eu bod yn gweithredu. Ac roedden nhw'n deall bod angen i Gymru godi ei llais fel cenedl i’r perwyl hwn ar lwyfan y byd.

“Mae hanes hynod a balch y ddeiseb yn anfon neges i ni yng Nghymru heddiw, am bwysigrwydd gweithredu, am bwysigrwydd cymryd safiad, ac am draddodiad hir a balch Cymru, a menywod Cymru yn arbennig, o godi llais ar faterion rhyngwladol a galw am heddwch.”

Ychwanegodd Ms Williams:

“Ni ddylem edrych ar y ddeiseb hon fel darn o hanes yn unig, heb archwilio ei harwyddocâd a’i hysbrydoliaeth heddiw. Y rheswm y mae geiriau’r apêl yn atseinio cymaint yw eu bod nhw mor bwysig heddiw ag oedden nhw ganrif yn ôl.

“Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar drais yn erbyn Menywod a Phlant, rwyf wedi ysgrifennu at lywodraethau Cymru a’r DG yn pwysleisio effaith anghymesur ymosodiadau Llywodraeth Israel ar fenywod a phlant Gaza, a’u hannog i alw'n glir ac yn gyhoeddus am gadoediad ar unwaith. 

“O ystyried hanes y ddeiseb hon, byddaf yn gofyn i Lywodraeth Cymru sut mae'n sicrhau bod ei llais, a thrwyddi, lleisiau dinasyddion Cymru, yn cael ei glywed ar y llwyfan rhyngwladol a byddaf yn ei hannog i geisio dylanwadu ar lywodraethau’r byd i barchu hawliau dynol a hyrwyddo heddwch.

“Rhaid i ni sicrhau bod traddodiad balch a phwysig Cymru wrth arwain galwadau am heddwch rhyngwladol yn parhau hyd heddiw.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd