Cyfarfod cyhoeddus ar gyfer ferched Abertawe sy’n galw am gyfiawnder pensiwn

AS Plaid Cymru a Cyfiawnder Pensiwn i Fenywod Abertawe, yn galw cyfarfod cyhoeddus i drafod anghyfiawnder pensiwn i fenywod anwyd yn y 1950au

The graphic shows details of the public meeting being called by Sioned Williams MS and Pension Justice for Swansea Women to give an update on the fight for pension justice for 1950's women.

Mae’r Aelod Senedd Plaid Cymru, Sioned Williams, ynghyd â'r grŵp ymgyrchu lleol Cyfiawnder Pensiwn i Fenywod Abertawe, wedi galw cyfarfod cyhoeddus ar gyfer menywod sydd wedi colli allan ar bensiwn y wladwriaeth ar yr oedran yr oeddent yn ei ddisgwyl.

Yn 1995 penderfynodd San Steffan gynyddu oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod o 60 oed. Cafodd hyn effaith benodol ar fenywod a anwyd yn y 1950au.

Roedd y diffyg cyfathrebu yn golygu bod nifer sylweddol o fenywod wedi cael cyn lleied â blwyddyn o rybudd am y cynnydd o hyd at 6 blynedd i'w hoedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Amcangyfrifir bod 15,000 o fenywod wedi cael eu heffeithio yn ardal Abertawe, a bydd y cyfarfod cyhoeddus yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y frwydr am iawndal ariannol ar gyfer colli y Pensiwn y Wladwriaeth a addawyd iddynt yn 60 oed.

Cynhelir y cyfarfod cyhoeddus am 6pm ddydd Iau 25 Ebrill yn Siambr y Cyngor Neuadd y Ddinas Abertawe.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae’n ymddangos yn annealladwy y gallai pobl fod yn y sefyllfa lle maen nhw wedi diswyddiad gwirfoddol o’r gwaith, gan feddwl bod eu pensiwn y wladwriaeth ar fin cyrraedd, dim ond i ganfod eu sefyllfa ariannol wedi eu newid heb yn wybod iddynt. Ond dyma’r sefyllfa y cafodd miliynau o fenywod eu hunain ynddi yn dilyn penderfyniad San Steffan yn 1995.

“Rwy’n cefnogi’r galwadau ar Lywodraeth San Steffan i gytuno ar iawndal teg a chyflym i bob menyw y mae’r diffyg rhybudd ynghylch oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn effeithio arnynt i adlewyrchu eu colledion ariannol a’r niwed parhaus i'w hiechyd meddwl a'u lles, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r sylwadau hynny i Lywodraeth y DU.

“Mae hwn yn fater sy’n gwahaniaethu'n uniongyrchol yn erbyn menywod ac fel llefarydd Plaid Cymru ar Gydraddoldeb, rwy'n teimlo bod yr ymgyrch hon dros gyfiawnder o'r pwys mwyaf ac rwy’n gobeithio y bydd y cyfarfod hwn yn codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth ar ei gyfer.”

Meddai Janet Fisk o Cyfiawnder Pensiwn i Fenywod Abertawe, y bu'n rhaid iddi aros 2 flynedd a deng mis cyn iddi allu hawlio ei phensiwn y wladwriaeth:

“Rwy’n ymladd dros y menywod hynny nad ydynt mor ffodus â mi. Menywod sy’n parhau i orfod gweithio mewn swyddi anodd yn gorfforol yn aml fel glanhau, gofalu neu bentyrru silffoedd mewn archfarchnadoedd ymhell y tu hwnt i’r oedran y disgwylid i unrhyw un ohonom fod angen gwneud hynny -  menywod sydd wedi gorfod gwerthu eu cartrefi am nad ydyn nhw bellach yn gallu fforddio eu cynnal, menywod sy’n cysgu yn eu ceir neu’n syrffio soffa nes bod y cyngor yn gallu eu hailgartrefu! Ni ddylai hyn fod yn effeithio ar fenywod yn eu 60au a dalodd i mewn i gynllun Yswiriant Gwladol i ofalu amdanynt o'r crud i'r bedd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd