Galw ar Lywodraeth Cymru i liniaru effeithiau polisiau Torïaidd

Wrth ymateb yn ddiweddar i ddatganiad yn y Senedd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, cyfeiriodd Sioned Williams at ystadegau sy’n datgelu sut y mae’r argyfwng yn gwaethygu ac fe anogodd Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i helpu aelwydydd sydd angen cymorth.

Croesawodd Sioned Williams, sy’n llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, mabwysiadiad polisïau Plaid Cymru sy'n anelu i fynd i’r afael â thlodi a'r argyfwng costau byw, diolch i’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Sioned Williams AS:

"Mae adroddiad diweddar gan Barnardo's Cymru wedi tanlinellu maint ac effaith andwyol yr argyfwng costau byw ar deuluoedd a phlant yng Nghymru. Dywedodd 61% o rieni bod eu sefyllfa ariannol wedi gwaethygu yn y pedwar mis diwethaf. Roedd pris uchel bwyd yn un o'r pryderon mwyaf, gyda phobl ifanc yn sôn nad oedden nhw'n gallu fforddio teithio ar gyfer addysg na gwaith, na chwrdd â'u ffrindiau.

"Mae adroddiad newydd yn y The Guardian yn datgelu bod chwyddiant prisiau bwyd ar y drydedd lefel uchaf ers 2008. Mae gan Lywodraeth San Steffan gyfrifoldeb sylweddol iawn am hyn—wrth wrthod sicrhau system les sy'n ffit i bwrpas, wrth wrthod cynyddu’r lwfans tai lleol, ac wrth dorri gwariant ar wasanaethu cyhoeddus nes bod y tyllau yn y rhwyd diogelwch yn golygu bod mwy a mwy o deuluoedd yn syrthio i dlodi ac mewn argyfwng.

“Rwy’n falch iawn bod cyflwyno prydau ysgol am ddim i blant ysgolion cynradd ac ehangu gofal plant am ddim yn gynnyrch y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Serch hynny, mae Plaid Cymru yn credu bod mwy y dylai bod Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru effeithiau polisïau dinistriol y Torïaid.

"Mae Plaid Cymru yn cefnogi rhai o alwadau Barnado’s Cymru ar Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad, fel cyflymu’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim lle bynnag y bo modd, gan roi mynediad ar unwaith i blant y mae eu rhieni’n derbyn credyd cynhwysol, ac ymestyn prydau bwyd am ddim i ysgolion uwchradd cyn gynted ag y bo modd, fel y cam nesaf yn y polisi blaenllaw yma yn sgil y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Yn yr un modd, er bod y Llywodraeth wedi cytuno i gynyddu’r lwfans cynhaliaeth addysg, dywedodd pobl ifanc wrth Barnado’s Cymru bod £20 o’r £40 yna yn cael ei wario ar deithiau ar fysiau, ac felly bod angen cynyddu'r lwfans ac edrych ar fyrder ar gost trafnidiaeth i bobl ifanc."

Gwyliwch isod:

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd