AS Plaid Cymru yn canmol Clymblaid Enfys am adfer gwasanaethau bysiau

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i sicrhau 42 o gontractau bysiau ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys nifer o wasanaethau a oedd wedi’u torri neu eu lleihau yn flaenorol.

No photo description available.

Mae rhwydwaith bysiau Castell-nedd Port Talbot ar ei newydd wedd yn cynnwys:
🚌 Gwasanaeth X6 (Bore) Ystradgynlais i Orsaf Fysiau Abertawe
🚎 Gwasanaeth 256 (Bore) Gerddi Victoria Castell-nedd i Bontardawe
🚌 Gwasanaeth 256 (Noson) Gerddi Victoria Castell-nedd i Bontardawe
🚎 Gwasanaeth 38 (Dydd Sul) Gorsaf Fysiau Abertawe i Erddi Victoria Castell-nedd
🚌 Gwasanaeth 81 (Awr) Gorsaf Fysiau Port Talbot i Brynbryddan
🚎 Gwasanaeth 82 (Awr) Gorsaf Fysiau Port Talbot i Stad Sandfields (Golden Avenue)

Hoffwn ddiolch i Gynghorwyr Plaid Cymru ac holl aelodau’r Glymblaid Enfys a swyddogion y Cyngor sydd wedi llwyddo i ddiogelu nifer fawr o wasanaethau er gwaethaf toriadau mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n dal i fod yn gyfnod heriol i wasanaethau bysiau ledled y wlad.

Flwyddyn yn ôl i’r mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n dod â’r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben, er gwaethaf costau cynyddol i weithredwyr bysiau a llai o refeniw oherwydd yr adferiad araf yn nifer y teithwyr ar ôl y pandemig. Rwyf wedi treulio llawer o’r flwyddyn ddiwethaf hon yn herio’r llywodraeth ar eu penderfyniad, ac wedi dadlau’r achos dros fuddsoddi mwy yn yr hyn ddylai gael ei ystyried yn wasanaeth cymunedol hanfodol.

Tra bod Llywodraeth Cymru yn addo diwygiadau yn y dyfodol, mae’r Glymblaid Enfys yn gweithredu heddiw i ddiogelu gwasanaethau sy’n hanfodol ar gyfer iechyd, llewyrch a lles ein cymunedau.

Hoffwn hefyd ddiolch i’r llu o etholwyr sydd wedi ysgrifennu ataf, at eu cynghorwyr, at gwmnïau bysiau ac at Lywodraeth Cymru. Rydych chi wedi ysgrifennu llythyrau, llofnodi deisebau a rhannu sut mae toriadau wedi effeithio arnoch chi. Mae eich ymdrechion wedi bod yn hanfodol i wneud gwasanaethau bws yn flaenoriaeth, ac rydych yn haeddu clod am wneud hyn yn bosibl!

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd