Sioned Williams yn sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar laswellt artiffisial

Llwyddodd AS Plaid Cymru, Sioned Williams, i sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i edrych ar wahardd glaswellt artiffisial mewn ardaloedd a ariennir yn gyhoeddus, yn dilyn galwadau gan yr AS.

Mewn cwestiwn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, galwodd Sioned Williams AS ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o laswellt artiffisial mewn mannau y mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth drostynt, ac eithrio meysydd chwaraeon, ac i ystyried darparu cymhellion ariannol i annog a gwobrwyo rheolaeth gynaliadwy o erddi.

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd y byddai’n sefydlu ymgyrch wybodaeth gyhoeddus i addysgu pobl o anfanteision glaswellt artiffisial, ac ymrwymodd i edrych mewn i wahardd glaswellt artiffisial mewn ardaloedd a ariennir yn gyhoeddus, ac archwilio allai Bil Cynhyrchion Plastig Untro newydd Llywodraeth Cymru gael ei ddefnyddio i gyflwyno gwaharddiad ehangach yng Nghymru.

Dywedodd Sioned Williams, AS Gorllewin De Cymru:

"Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Athro Ross Cameron o Brifysgol Sheffield yn amlygu pwysigrwydd amgylcheddol gerddi naturiol. Maent yn chwarae rhan hanfodol o ran oeri ardaloedd trefol, amsugno glaw, a thrwy hynny leihau'r perygl o fflachlifogydd, a chynnig lloches y mae mawr ei angen ar gyfer bywyd gwyllt. Mae'r adroddiad yn amlinellu rhai o dueddiadau dylunio a chynnal a chadw gerddi sy'n niweidiol i'r amgylchedd trefol, ac un o'r rhain yw'r defnydd o laswellt artiffisial.

"Mae glaswellt artiffisial wedi'i wneud o blastig a deunyddiau synthetig eraill, ac mae ganddo hyd oes o 8-15 mlynedd, ac ar ôl hynny gall nid yw'n rhwydd i'w daflu mewn modd cynaliadwy. Ar wahân i leihau buddion gerddi naturiol, mae gan y defnydd o laswellt artiffisial oblygiadau amgylcheddol eraill, megis rhwystro cynefinoedd mwydod a phryfed, tra gall trwytholchi microblastigau niweidio bywyd gwyllt.

"Ysgrifennais at Gyngor Abertawe yn fy rhanbarth am y mater hwn ar ôl cael fy hysbysu bod glaswellt artiffisial wedi cael ei ddefnyddio yn y gwaith adfywio dinasoedd. Mewn ymateb i'm llythyr, dywedon nhw na fyddai gwair artiffisial yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor mewn mannau cyhoeddus, hyd yn oed dros dro, wrth symud ymlaen. Anogais Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl dda Cyngor Abertawe, ac rwy'n falch nawr fod y Gweinidog, mewn ymateb i'm cwestiwn, wedi ymrwymo i ymchwilio i gyflwyno gwaharddiad ehangach yng Nghymru."

Gwyliwch isod:

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd