Galw am weithredu brys ar amseroedd aros deintyddiaeth

Mae AS Gorllewin De Cymru Sioned Williams wedi galw ar y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, i gymryd camau brys i leihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau deintyddol.

Dywedodd Sioned Williams AS:

"Mae llawer o fy etholwyr sydd bod â deintydd GIG ers blynyddoedd yn methu deall pam na allant weld eu deintydd, neu mae'r rhai sydd wedi colli eu deintyddion GIG yn methu deall pam na allant gael mynediad at un arall. Maent yn teimlo fel pe baent wedi cael eu gwthio i gefn y ciw. Rwyf wedi cael cymaint o ohebiaeth ar hyn: pâr priod a fu'n gleifion mewn practis GIG yng Nghastell-nedd ers dros 10 mlynedd heb weld deintydd ers 2019. Llwyddodd etholwr arall o Gimla i fynd ar restr GIG o ddeintyddion ym Mhort Talbot am na allai fforddio tâl misol ei deintydd preifat oherwydd yr argyfwng costau byw. Ond am nad oes ganddi gar, mae'n gweld bod teithio yno yn anodd iawn ac yn gostus."

"Mae deintyddion yn dweud wrthym fod cleifion hanesyddol y GIG yn wynebu oedi o'r fath am yr hyn sy'n cael ei ystyried yn waith nad yw'n waith brys yn sgil canlyniadau metrigau newydd y contract diwygiedig, gyda'i bwyslais ar dderbyn cleifion newydd. Mae'n hanfodol fod cleifion hanesyddol a phresennol, yn ogystal â rhai newydd, yn cael eu gweld yn amserol."

Fe wnaeth Sioned Williams hefyd gwrdd â deintyddion sy’n gweithio yn ei bwrdd iechyd lleol, sydd, esboniodd yr AS, “yn wir yn teimlo nad yw’r Llywodraeth yn gwrando arnynt, ac hefyd nad oes digon o gyllid o fewn y system i ddarparu’r gwasanaeth y mae Llywodraeth Cymru ei eisiau.” Disgrifiodd y cytundebau deintyddiaeth fel rhai "anghynaladwy" a disgwyliadau fel rhai "afrealistig".

Siaradodd yr AS yn ogystal am yr angen am fwy o gyfleoedd hyfforddi i ddarpar ddeintyddion yng Nghymru.

Ychwanegodd Sioned Williams:

"Fe bwysleisiodd y deintyddion y siaradais â nhw sut mae graddedigion deintyddol newydd bellach yn dewis ymarfer preifat, oherwydd tanariannu deintyddiaeth y GIG, er bod teimlad nad oeddent yn barod am hyn yn glinigol i raddau helaeth. Roedd y deintyddion o'r farn y dylai fod gofyniad i weithio o fewn y GIG am nifer gofynnol o flynyddoedd, er mwyn diwallu angen, ie, ond hefyd i gael y profiad clinigol angenrheidiol ar gyfer darparu gofal o ansawdd da.

"Mynegwyd rhwystredigaeth nad oes mwy o'r llefydd cyfyngedig yng Nghaerdydd yn cael eu llenwi gan fyfyrwyr o Gymru. Siaradodd un deintydd lleol mewn anobaith am y ffaith nad oedd yr un o'r nifer o fyfyrwyr A* lleol a oedd wedi mynychu sesiynau profiad gwaith gyda hi cyn gwneud cais i Gaerdydd wedi cael cynnig cyfweliad hyd yn oed. Fel y mae'r cynnig yn awgrymu, mae'n rhaid inni edrych ar hyfforddiant, gan archwilio'r posibilrwydd o sefydlu ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd—ie. A byddwn i, gyda Mike Hedges, yn gofyn i'r Gweinidog edrych ar Brifysgol Abertawe hefyd, lle mae'r cwrs meddygaeth mynediad i raddedigion yn darparu model o'r math o ddull y gellid ei fabwysiadu."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd