Galw ar y Gweinidog Addysg i achub ysgolion Cwm Tawe

Mae Sioned Williams yn galw ar y Gweinidog Addysg i wyrdroi penderfyniad ‘dirmygus’ Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol gynradd leol.

Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, yn galw arno i ymyrryd i wyrdroi penderfyniad “dirmygus” ac “annemocrataidd” Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe er gwaethaf “gwrthwynebiad llethol yn lleol” i’r cynlluniau sy'n "mynd yn groes" i bolisi llywodraeth.

Mewn cyfarfod o gabinet y Cyngor ar yr 20fed Hydref, pleidleisiodd Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot o blaid cau ysgolion cynradd yr Alltwen, Godre'rgraig a Llangiwg ac i sefydlu ysgol enfawr 3-11 cyfrwng Saesneg yn eu lle, er gwaetha’r ffaith nad yw’r ysgolion cynradd hyn yn rhai bach eu maint na'n rhai sy'n methu. 

Yn ei llythyr i’r Gweinidog Addysg, dywedodd Sioned Williams:

“Mae’r cynlluniau hyn yn gwbl ddiffygiol am amryw o resymau ac yn mynd yn groes i nifer o amcanion polisi'r Llywodraeth: bydden nhw’n torri’r cysylltiad rhwng addysg a’r gymuned leol sy'n cael ei flaenoriaethu yn y Cwricwlwm newydd, bydden nhw’n arwain at lai o ddarpariaeth addysg i blant o deuluoedd difreintiedig, bydden nhw’n arwain at ragor o dagfeydd a thraffig ac felly dirywiad mewn ansawdd aer, bydden nhw'n lleihau mannau gwyrdd lleol ac fe fydden nhw’n ddinistriol i’r Gymraeg. Rwyf felly'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn y penderfyniad hwn.

“Mae’r penderfyniad hwn yn amhoblogaidd iawn yn lleol ac yn cael ei ystyried yn ddirmygus ac yn annemocrataidd. Mae mwyafrif llethol y rhieni a’r preswylwyr sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad yn gwrthwynebu'r cynlluniau.  Credaf fod anwybyddu y lefel sylweddol hwn o wrthwynebiad lleol yn gam gwag gan y Cyngor ac yn awgrymu nad ydyn nhw’n cymryd safbwyntiau pobl leol – eu hetholwyr eu hunain – o ddifrif.”

Yn ogystal, mynegodd Sioned Williams ei phryderon yn y llythyr y byddai’r cynlluniau “yn tanseilio strategaeth Cymraeg 2050” Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Mae ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn nogfen y Cyngor ei hun yn nodi bod cwymp sylweddol wedi bod mewn siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011 yng Nghwm Tawe, a'r tebygolrwydd yw y bydd y golled yn parhau yn wyneb diffyg camau adfer iaith yn yr ardal. Bydd y cynllun hwn yn cyfrannu at barhau’r golled yn ystod y ddeng mlynedd nesaf a’r dyfodol yn groes i amcanion strategol y Llywodraeth a'r Cyngor ei hunan." 

“Mae’r penderfyniad yn ddiffygiol o bob ongl ac fe fyddai’n cael effaith niweidiol  ar addysg leol, y gymuned leol, ein disgyblion mwyaf difreintiedig a’r Gymraeg."

 

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd