Hafan > Ymgyrchoedd > Mynediad at wasanaethau arian parod
Mynediad at wasanaethau arian parod
Rwy'n hynod o grac y bydd tref Pontardawe yn cael ei gadael heb fanc yn dilyn penderfyniad Lloyds i gau eu cangen ym mis Tachwedd. Hwn fy manc lleol ac rwy'n gwybod bod defnydd mawr ohono! Bydd cau'r banc yn gadael bwlch enfawr o ran gwasanaethau bancio yng Nghwm Tawe.
Dwi'n gwybod bod angen banc go iawn ar fusnesau ac ar drigolion lleol - dyw nifer ohonyn nhw ddim yn bancio ar-lein. Mae sicrhau ein bod yn cadw'r gallu i brynu a gwerthu gydag arian parod yn ein cymunedau yn fater o degwch a chynhwysiant.
Er enghraifft fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y Senedd ar Anableddau Dysgu, rwyf wedi bod yn cefnogi ymgyrch Mencap i sicrhau y gall pobl ddefnyddio arian parod i dalu am nwyddau a gwasanaethau. Rwyf wedi clywed gan lawer o bobl ledled Cymru nad ydynt yn gallu defnyddio bancio ar-lein, na defnyddio cardiau debyd neu gredyd, ond mae ganddynt y gallu i ddefnyddio arian parod, ac mae hyn yn rhan bwysig o'u hannibyniaeth.
Er mwyn i fusnesau bach allu derbyn arian parod, maen nhw angen gwasanaethau sydd gerllaw er mwyn ei fancio. Mae banciau felly yn golygu mwy i gymuned na dim ond lle sy'n trin a tharfod eu harian - maen nhw'n galluogi llif arian drwy gymuned.