Hafan > Ymgyrchoedd > Iechyd Menywod > Cerdyn coch i Gymru ar iechyd menywod
Cerdyn coch i Gymru ar iechyd menywod
22.08.2023
Roedd yn anrhydedd siarad ar banel yn trafod y problemau eang yn ein system gofal iechyd o ran diagnosis, triniaeth a dealltwriaeth o endometriosis, yn dilyn dangosiad o'r ffilm Below the Belt. Diolch i Wirfoddolwr FTWW Millie Nicol am ddod â'r rhaglen ddogfen bwerus hon i Abertawe, sy'n datgelu tabŵs cymdeithasol, rhagfarn rhywedd a bylchau yn y wybodaeth feddygol am y salwch llethol hwn sy'n effeithio ar un o bob deg menyw. Diolch i bawb a rannodd eu barn a'u profiadau.
