Hafan > Ymgyrchoedd > Hawliau Anabledd > Protest ‘Cartrefi Nid Ysbytai’
Protest ‘Cartrefi Nid Ysbytai’
17.04.2024
Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, roeddwn yn falch iawn o siarad ym mhrotest Bywydau Wedi’u Dwyn o flaen y Senedd heddiw yn galw am Gartrefi Nid Ysbytai. Rhaid inni weld diwedd ar osod pobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth mewn ysbytai ac unedau, a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi yn eu cymunedau. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar yr anghyfiawnder hwn.