logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Ymgyrchoedd > Achub ein Bysiau > AS yn mynegi “siom ddofn” dros “roi terfyn amser ar groeso”

AS yn mynegi “siom ddofn” dros “roi terfyn amser ar groeso”

28.03.2024

Plaid Cymru yn beirniadu Llafur am dorri'r cyllid ar gyfer y Tocyn Croeso i'r rhai sy'n ceisio noddfa

lle cerdded mewn bws

Bydd y Tocyn Croeso, a alluogodd i bob ffoadur, gan gynnwys pobl o Wcrain ac Affghanistan, deithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn cael ei dynnu’n ôl o 1 Ebrill 2024.

Mae Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru a llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi mynegi “siom ddofn” bod y cyllid wedi ei dorri gan Lywodraeth Lafur Cymru ar gyfer gwasanaeth sydd wedi ei alw'n “hanfodol”.

Mae llefarydd o Ddinas Noddfa Abertawe wedi dweud bod y cynllun wedi gwneud “gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n dechrau adeiladu eu bywydau yng Nghymru” gan ychwanegu eu bod yn “poeni y bydd y bwlch yn y cynllun hwn yn gwaethygu achosion o wahaniaethu ac allgau.”

Abertawe oedd y dinas gyntaf yng Nghymru i gael ei datgan yn Ddinas Noddfa, a’r ail yn y DU.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn adolygu'r cynllun gyda “bwriad i sefydlu cam newydd o'r cynllun Tocynnau Croeso yn 2024” nid oes unrhyw fanylion hyd yma ar natur y cynllun, na phryd y bydd yn ymddangos.

Dywedodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac Aelod Seneddol Gorllewin De Cymru:

“Gallai darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i'r rhai sydd wedi gorfod ffoi rhag rhyfel a newyn, ymddangos fel cam bach, ond mae o werth gwirioneddol i'r rhai sydd wedi dechrau ceisio ailadeiladu eu bywydau yma yng Nghymru.

“Mae pobl Abertawe wedi dangos pa mor gefnogol a chroesawgar ydyn nhw i'r rhai sy'n ceisio noddfa a bydd cael gwared ar y cynllun hwn yn ergyd benodol i'r rhai sy'n ymwneud â gwaith Dinas Noddfa Abertawe.

“Mae mor bwysig nad oes bwlch yn y ddarpariaeth, ond wrth i ni agosáu at ddyddiad dileu’r cynllun heb unrhyw newyddion pellach gan Lywodraeth Cymru, mae yna ofn gwirioneddol y bydd y rhai sy'n ceisio noddfa yng Nghymru yn cael eu gadael wedi eu hynysu. Os ydym yn honni ein bod yn Genedl Noddfa, mae'n rhaid i hynny fod yn fwy na geiriau. Ni ddylai fod terfyn amser ar y math hwn o groeso.”

Dywedodd llefarydd ar ran Dinas Noddfa Abertawe:

“Mae'r cynllun Tocynnau Croeso wedi bod yn hollbwysig i ddarparu symudedd hanfodol i ffoaduriaid yng Nghymru, gan gynnig modd i bobl gael mynediad at wasanaethau hanfodol, cyfleoedd cyflogaeth ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n dechrau adeiladu eu bywydau yng Nghymru. Rydym yn poeni y bydd y toriad yn y cynllun hwn yn gwaethygu achosion o wahaniaethu ac eithrio.

“Rhaid i unrhyw newid rhwng cynlluniau flaenoriaethu parhad y gefnogaeth i ffoaduriaid, a mynd i'r afael â'r materion sylfaenol sydd wedi codi wrth weithredu'r cynllun Tocyn Croeso. Dyma gyfle i safoni teithio am ddim i ffoaduriaid, a sicrhau nad oes unrhyw amwysedd i yrwyr bysiau.

“Nid yn unig hyn, ond rydym yn eirioli'n gryf dros ymestyn hawliau trafnidiaeth am ddim i bobl sy'n ceisio lloches. Mae ceiswyr lloches, sydd heb fynediad at arian cyhoeddus ac nad oes ganddynt hawl i weithio, yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran symudedd ac integreiddio. Mae darparu cludiant am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gam pendant tuag at wireddu gweledigaeth Cymru fel Cenedl Noddfa.

Pob newyddion