logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Ymgyrchoedd > Amgylchedd > Ymweliad i Bee 1

Ymweliad i Bee 1

19.07.2022

Roedd yn bleser cwrdd â Mark Douglas ac Amy Brown o Bee 1 i glywed am Our Climate Classroom, rhaglen addysg newid hinsawdd gyntaf y DU, grewyd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r fenter wych hon yn cyflenwi pecyn o wersi digidol, adnoddau athrawon ac arbrofion i ddysgwyr i ysgolion.

Wrth siarad am y rhaglen hon, roedd brwdfrydedd Mark dros gynaliadwyedd a thros Gymru yn amlwg. Er bod llawer o ysgolion eisoes wedi elwa ar y rhaglen, mae e am i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru gael cyfle i ddysgu am newid hinsawdd a sut y gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
 

Cwch gwenyn pren gyda thwb plastig ar ei ben

Pob newyddion