logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Ymgyrchoedd > Addysg Wleidyddol > Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bryncoch

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bryncoch

13.12.2024

Roeddwn yn falch iawn o ymweld ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bryncoch ym mis Rhagfyr. Nid yn unig y cefais daith o amgylch yr ysgol wych hon, ond cefais hefyd gyfle i siarad â disgyblion am fy rôl fel un o’u Haelodau o’r Senedd, ateb rhai o’u cwestiynau am y Senedd, a chyflwyno bathodynnau i’r Prif Weinidogion, Ddirprwy Prif Weinidogion ac Aelodau Senedd yr Ysgol.

Diolch i’r Pennaeth, Mr Marc Sinnett, am fy ngwahodd i’r ysgol ac amlinellu rhai o’r cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol. Diolch hefyd i Margaret Thomas, Cadeirydd y Llywodraethwyr, oedd yn amlwg mor angerddol dros yr ysgol. Yn olaf, diolch hefyd i’r holl athrawon a staff y siaradais â nhw, yn ogystal â’r holl blant a ofynnodd gymaint o gwestiynau treiddgar.

sioned wiliams yn siarad i disgyblion ysgol

Pob newyddion