logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Ymgyrchoedd > Addysg Wleidyddol > Disgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol San Tomos i’r Senedd

Mae Sioned Williams AS yn croesawu disgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol San Tomos i’r Senedd

14.05.2025

Aeth Sioned Williams i gwrdd â nhw i siarad am y rhanbarth y mae’n ei chynrychioli a’i rôl yn y Senedd

Mae Sioned Williams yn sefyll gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol Sant Thomas ar y grisiau y tu mewn i'r Senedd
Mae Sioned Williams yn siarad â disgyblion o ysgol gymunedol Sant Thomas. Maen nhw'n sefyll y tu mewn i'r Neuadd y Senedd.

Roedd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, yn falch iawn o groesawu dysgwyr o Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas yn nwyrain Abertawe i’r Senedd. 

Roedd disgyblion Blwyddyn 6 yr ysgol yn ymweld â’r Senedd, ac aeth Sioned Williams i gwrdd â nhw i siarad am y rhanbarth y mae’n ei chynrychioli a’i rôl yn y Senedd.

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Sioned Williams AS:

“Roedd yn hyfryd cwrdd â disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas a siarad â nhw am sut beth yw bod yn Aelod o'r Senedd. 

“Fe wnaethon ni drafod sut mae gwleidyddiaeth yn fwy na rhywbeth ‘ar y newyddion’ a sut mae’n siapio eu bywydau – o’u hadeilad ysgol, i’w hamgylchedd leol, i bethau fel pa mor hawdd yw hi i gael apwyntiad meddyg. 

“Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn clywed am eu cyngor ysgol ac rwyf wedi eu hannog i gysylltu â mi fel un o'u cynrychiolwyr etholedig, os oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau pellach.”

Pob newyddion