Ysgol Gynradd Treforys
14.11.2024
Bore gwych yn cymryd rhan mewn trafodaeth gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Treforys am fy rôl fel un o’u Haelodau o’r Senedd a sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio. Diolch am y cwestiynau gwych! Diolch i The Politics Project am drefnu’r sesiynau Deialog Digidol hynod bwysig hyn i helpu i feithrin perthynas rhwng pobl ifanc a’u gwleidyddion ac i rymuso pobl ifanc i drafod y materion cymdeithasol a gwleidyddol sydd o bwys iddyn nhw.
