logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Ysgol Godre’r Graig: Llywodraeth yn gwneud addewid i ymweld

Sioned Wlliams yn sicrhau addewid gan y Llywodraeth i ymweld ag Ysgol Godre’r Graig

08.10.2025

Pryderon wedi codi ynghylch effaith ar ddysgwyr “nad ydynt erioed wedi cael eu haddysgu mewn adeilad ysgol parhaol yn eu cymuned eu hunain.”

Mae Sioned Williams wedi sicrhau addewid gan Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i gyfarfod ag arweinwyr Ysgol Gynradd Godre’r Graig.

Heddiw yn y Senedd (Dydd Mawrth 8 Hydref), cododd Sioned Williams AS sefyllfa Ysgol Gynradd Godre’r Graig unwaith eto, lle mae disgyblion wedi cael eu dysgu mewn o cabanau am y chwe blynedd diwethaf, filltiroedd o’u cymuned, ar ôl cau eu hadeilad ysgol a’i ddymchwel yn ddiweddarach.

Er bod cais am adeilad newydd yng Ngodre’r Graig wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, mae pryderon wedi’u codi gyda Ms Williams bod y cais yn cael ei asesu fel un am ysgol Newydd yn hytrach nag adeilad newydd.

Mae llythyr gan swyddogion Llywodraeth Cymru at swyddogion Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cyfeirio at yr effaith y byddai ysgol ‘newydd’ yn ei chael ar nifer y disgyblion mewn ysgolion eraill, ond nid yr effaith mae'r sefyllfa bresennol yn ei chael ar nifer y disgyblion yn Ysgol Godre’r Graig.

Gwahoddodd Ms Williams Lynne Neagle i “gyfarfod â’r arweinwyr, i ddeall cyd-destun eithriadol y cais hwn am gefnogaeth” ac fe gadarnhaodd Ms Neagle y byddai yn “falch iawn o ymweld â'r ysgol.”

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru:

Ar ôl codi’r angen am adeilad newydd ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig unwaith eto, a cheisio cael Llywodraeth Cymru i ddeall y cyd-destun unigryw ar gyfer y cais hwn am gymorth. Rwyf’ yn falch iawn o gael ymrwymiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i ymweld â'r ysgol a chyfarfod ag arweinwyr yr ysgol.

Nid ‘ysgol newydd’ yw hyn oherwydd bod yr ysgol eisoes yn bodoli, felly pan glywaf sôn am yr effaith byddai 'ysgol newydd' ar gyfer Godre’r Graig yn ei chael ar ysgolion cyfagos, mae'n bwynt rhyfedd, oherwydd mae Ysgol Gynradd Godre’r Graig eisoes yn bodoli.

Yr hyn sy’n peri pryder i mi yw’r effaith ar nifer o ddysgwyr yn Ysgol Godre’r Graig nad ydynt erioed wedi cael eu haddysgu mewn adeilad ysgol parhaol yn eu cymuned eu hunain, a diogelu dyfodol y ysgol lwyddiannus hon.

Cafodd y stori hon sylw gan y cyfryngau newyddion canlynol:

Wales Onine: Questions over funding for demolished Neath Port Talbot school (erthygl yn Saesneg yn unig)

[dolen i wefan allanol yn agor mewn ffenestr newydd]

 

Darllen yr erthygl

Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.

Yn ôl