logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Tlodi Plant: Pleidlais yn y Senedd ar daliad plant

Y Senedd yn trafod ffyrdd o fynd i'r afael â thlodi plant

01.10.2025

Sioned Williams yn galw am daliad uniongyrchol i blant i fynd i'r afael â thlodi plant

Bachgen mewn jîns a chrys-t gwyn, dim esgidiau, wyneb wedi'i guddio yn eistedd â'i goesau wedi'u croesi yn erbyn cefndir wal gerrig

Bachgen mewn jîns a chrys-t gwyn, dim esgidiau, wyneb wedi'i guddio yn eistedd â'i goesau wedi'u croesi yn erbyn cefndir wal gerrig

Heddiw (1 Hydref 2025) cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar dlodi plant.

Cyflwynwyd y ddadl i'r Senedd gan Blaid Cymru a gallwch ddarllen y cynnig yma.

Mae 32% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a rhagwelir y bydd yn cyrraedd ei chyfradd uchaf mewn 30 mlynedd ar 34% erbyn 2029, yn ôl dadansoddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree.

Yn 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru cael gwared ar ei tharged i ddileu tlodi plant erbyn 2020.

Yn y cyfamser, yr Alban yw'r unig genedl yn y DG lle mae disgwyl i dlodi plant ostwng ar ôl i Lywodraeth yr Alban gymryd camau beiddgar trwy Daliad Plentyn ac wedi ymrwymo i ddileu'r cap dau blentyn o fis Mawrth 2026.

Mae Sioned Williams wedi galw o'r blaen am daliad uniongyrchol i blant a cymryd ysbrydoliaeth o'r Alban i "gefnogi teuluoedd" gyda thaliad plant uniongyrchol "trawsnewidiol" i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant yng Nghymru.

Dywedodd Ms Williams fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i bleidleisio yn erbyn galwadau Plaid Cymru yn "siomedig".

Yn siarad wedi’r bleidlais, mae llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams AS:

Mae tlodi plant yn ddewis gwleidyddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud esgusodion am eu diffyg gweithredu yn lle dod o hyd i ffordd i gyflawni – tra bod Llywodraeth yr Alban wedi gwneud eu gwaith a gweithredu i dynnu plant allan o dlodi.

Roedd y ddadl yma yn gyfle i Lafur i dderbyn ein galwadau am daliad plentyn ac am dargedau statudol mesuradwy, er lles y nifer cynyddol o blant sydd yn mynd heb yr hanfodion.

Mae ei diffyg uchelgais i Gymru a’n pobl ifanc yn siomedig.

Gallwch ddarllen cofnod y Senedd o'r ddadl yma.

Yn ôl