Tlodi Plant: Mae'n amser i weithredu
04.02.2025
Mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar dlodi plant yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn nodi, o dan ragamcaniad canolog OBR, mai'r Alban fydd yr unig wlad lle bydd cyfraddau tlodi plant yn gostwng erbyn 2029, gan dynnu sylw at bŵer polisïau nawdd cymdeithasol wrth fynd i'r afael â thlodi.
Mae taliad plant Llywodraeth yr Alban wedi cael ei ystyried yn drawsnewidiol wrth fynd i'r afael â thlodi plant tra bod y weinyddiaeth hefyd yn cymryd camau i liniaru cap budd-dal dau blentyn Llywodraeth y DU.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi cadw'r cap dau blentyn, er bod dadansoddiad yn dangos y byddai ei ddileu yn codi 250,000 o blant allan o dlodi dros nos.
Mae Sioned Williams AS wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i adlewyrchu camau Llywodraeth yr Alban i liniaru effeithiau'r cap ar fudd-daliadau dau blentyn ac archwilio cyflwyno taliad plentyn.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams AS:
“Mae'n amser i'r llywodraeth weithredu yn sgil ymchwil newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree ar dlodi plant.
“Mae'n gywilyddus y bydd cyfraddau tlodi plant yn cynyddu ym mhob rhan o'r DU ac eithrio'r Alban dros y blynyddoedd nesaf, hyd yn oed os yw'r economi'n tyfi.
“Gydag amcangyfrif mai Cymru bydd â'r cyfraddau tlodi plant uchaf erbyn 2029, sef 34.4%, mae yna bethau y gallai Llywodraeth Lafur Cymru fod yn eu gwneud ar hyn o bryd i fynd i'r afael â thlodi plant megis cyflwyno taliad plentyn, ac ailgyflwyno targedau ar gyfer lleihau tlodi plant.”