logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Teuluoedd Gleision ‘un cam yn nes at gael atebion’

Teuluoedd Gleision ‘un cam yn nes at gael atebion’ – Sioned Williams

24.03.2023

Mae AoS Plaid Cymru, Sioned Williams, wedi croesawu’r datblygiad diweddaraf yn yr ymgyrch i gynnal cwest llawn i farwolaethau pedwar dyn a gollodd eu bywydau’n drasig mewn trychineb pwll glo yng Nghilybebyll yn 2011.

Sioned Williams AoS, cynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Cilybebyll a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Mavis Breslin (gweddw Charles Breslin) a Lynette Powell (gweddw David Powell).

Heddiw, dechreuodd y broses o gytuno’n ffurfiol ar delerau’r cwest, ac fe fydd y Crwner yn cyhoeddi dyddiad y cwest yn dilyn y broses.

I nodi’r achlysur, ac fel rhan o Ymgyrch Gwledd y Gwanwyn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i ddathlu dyfodiad y gwanwyn, plannodd Sioned Williams flodau ceirios ym Mharc y Rhos heddiw i goffau’r rhai a gollodd eu bywydau yn drasig yn Nhrychineb Glofa'r Gleision.

Dywedodd Sioned Williams AoS:

“Y bore yma, ynghyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, plannodd teuluoedd rhai a gollodd eu bywydau, cynrychiolwyr y gymuned leol a minnau goeden geirios i gofio am Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gydag Aelodau’r Senedd i blannu coed mewn lleoliadau o’u dewis yn y rhanbarthau y maent yn eu cynrychioli, a meddyliais y byddai’n briodol dod â’r gymuned ynghyd i blannu coeden wrth ymyl y dram goffa ym Mharc Rhos. Bydd y goeden yn gofeb fyw o'r Drychineb.

“Fodd bynnag, er mor bwysig yw hi ein bod yn coffáu bywydau’r pedwar dyn a fu far mor drasig y diwrnod hwnnw yn 2011, yr hyn sy’n bwysicach fyth yw bod eu teuluoedd yn cael atebion.

“Rwyf wedi bod yn cefnogi galwad y teuluoedd am gwest llawn ers cael fy ethol ac wedi bod yn annog y Crwner i ymateb i’r galwadau hynny. Roeddwn yn falch iawn pan lwyddodd yr ymgyrch fis Rhagfyr diwethaf, wrth i’r Crwner orchymyn i gwest llawn gael ei gynnal.

“Mae wedi cymryd llawer gormod o amser i gyrraedd y pwynt hwn, ond rwy’n falch y bydd teuluoedd yn cael cyfle o’r diwedd i gael atebion i’r cwestiynau y maent wedi bod yn eu holi am y 11 mlynedd diwethaf a mwy. Er na allwn ddod â'r rhai a fuodd farw yn ôl, rwy'n gobeithio y bydd y cwest llawn hwn yn dod ag atebion i’r teuluoedd.

“Mae’r teuluoedd a’r gymuned ehangach yn haeddu gwybod beth ddigwyddodd ac a ellid bod wedi atal y marwolaethau hyn ac maen nhw bellach un cam yn nes at gael yr atebion.”

Sioned, cynrychiolwyr y cyngor cymuned ac aelodau'r teulu

Yn ôl