logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Sioned Williams yn ymuno â RCN i fynnu cyflog teg i nyrsys

Sioned Williams yn ymuno â gweithwyr yr RCN i fynnu cyflog teg i nyrsys

20.12.2022

Heddiw, fe ymunodd Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, â llinell biced y tu allan i Ysbyty Tre Forys, ac wythnos diwethaf, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, lle mae nyrsys yn galw am gyflogau ac amodau teg fel rhan o streic genedlaethol gan Undeb Coleg y Nyrsys (RCN).

Sioned ar linell biced

Mae RCN Cymru yn parhau i fod mewn anghydfod cyflog gyda Llywodraeth Cymru ers mis Hydref 2021 ynghylch ei ddyfarniad cyflog o 3% ar gyfer staff nyrsio GIG Cymru. Mae’r undeb yn galw am ddyfarniad cyflog sy’n 5% yn uwch na chwyddiant i unioni’r blynyddoedd o doriadau cyflog mewn termau real, sydd wedi arwain at nyrsys yn gadael y proffesiwn a pheryglu diogelwch cleifion.

Dywedodd Sioned Williams:

“Mae’n warthus bod yr un nyrsys hynny a’n hamddiffynnodd yn ystod y pandemig bellach yn defnyddio banciau bwyd ac yn crio ar ôl cyrraedd adref oherwydd y pwysau sydd arnynt a’r ymdeimlad nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol.

“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru gadw at eu gwerthoedd honedig, drwy fynd yn ôl at y bwrdd negodi a defnyddio’r holl bwerau sydd ganddynt i gyflwyno gwell cynnig cyflog i nyrsys y GIG yng Nghymru.

“Nyrsys yw asgwrn cefn ein GIG, ond mae cyflogau gwael ac amodau gwaith truenus wedi arwain at ymdeimlad eang o anobaith yn y proffesiwn.”

Ychwanegodd:

“Roeddwn yn falch o ymuno â gweithwyr RCN yn Nhre Forys heddiw ac ym Maglan wythnos diwethaf. Mae ond yn iawn i’r rhai sy’n gofalu amdanom dderbyn gofal eu hunain, a dyna pam y mae Plaid Cymru a minnau’n llwyr gefnogi galwadau’r RCN ac yn sefyll gyda nyrsys a holl weithwyr y sector cyhoeddus yn eu galwad dros gyflogau ac amodau teg.”

Yn ôl