logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > “Sgandal cenedlaethol” - Dibyniaeth ar fanciau bwyd

Dibyniaeth ar fanciau bwyd yng Nghymru yn “sgandal cenedlaethol”

21.05.2025

“Mae dibyniaeth ar barseli bwyd yng Nghymru wedi dod y norm newydd” – Sioned Williams AS 

Sioned Williams MS yn cael ei chyfweld gan ddau ddyn â'u cefnau atom. Sioned o flaen camera yn y senedd

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS, wedi galw am weithredu ar dlodi. Mae hyn yn dilyn adroddiad a chyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 21 Mai 2025) gan Trussell sydd wedi datgelu bod dibyniaeth ar fanciau bwyd yn parhau yn llawer uwch na lefelau cyn y pandemig.

Mae adroddiad Trussell wedi datgelu bod darparu bwyd brys yng Nghymru wedi bron dyblu yn ystod y degawd diwethaf, ac wedi cynyddu o 31% ers dechrau'r tymor Senedd hwn.

Gyda lefelau ystyfnig o dlodi plant yng Nghymru sy’n parhau i gynyddu, mae bron i ddwy-treian o barseli bwyd brys yn mynd i deuluoedd gyda phlant.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS:

“Mae'n sgandal cenedlaethol bod cymaint o bobl a theuluoedd yng Nghymru yn gorfod dibynnu ar barseli bwyd. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod lefelau o ddibyniaeth yn parhau i fod yn llawer uwch na cyn y pandemig, sy'n golygu bod Llafur yng Nghymru wedi caniatáu i ddibyniaeth ar barseli bwyd i ddod y norm newydd.

“Mae gweithredoedd gellir llywodraeth eu cymryd i leihau'r angen am fanciau bwyd yng Nghymru, ond maent yn dewis peidio.

"Gyda bron i ddwy-dreian o barseli bwyd yn mynd i deuluoedd â phlant, rhaid blaenoriaethu mynd i'r afael â thlodi plant yn ein cymunedau. Dwi wedi galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared â’r cap budd-dal dau blentyn, un o'r prif bolisïau sy'n gwthio mwy a mwy o deuluoedd i dlodi a'u cadw mewn tlodi. Bydd y toriadau i fudd-daliadau anabledd hefyd yn cynyddu'r nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn sylweddol.”

Yn ôl