Profion Cartref HPV home test kits
24.06.2025
Gyda'r cyhoeddiad heddiw y bydd profion cartref HPV yn cael eu cynnig i bobl sydd wedi colli apwyntiadau sgrinio ceg y groth yn Lloegr, mae angen gweld weithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae modd atal canser ceg y groth ac mae Plaid Cymru, ynghyd ag elusennau canser, wedi bod yn galw am gyflwyno'r profion hyn a allai achub bywydau ers peth amser. Gofynnais i'r Llywodraeth pryd y bydd y profion cartref ar gael yng Nghymru.