logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Plaid Cymru yn galw am gynllun swyddi brys ar gyfer Dur Tata

Plaid Cymru yn galw am gynllun swyddi brys ar gyfer Dur Tata

11.01.2024

O Gaerdydd i Gaerfyrddin, mae cymaint o bobl yn cael eu heffeithio gan yr ansicrwydd ynghylch gwaith dur Port Talbot – ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym beth maen nhw’n bwriadu ei wneud” meddai Sioned Williams AS

Llun o du allan Marchnad Castell-nedd, wedi'i dynnu o Stryd y Frenhines

Mae Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, heddiw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fanylu ar eu cynlluniau i arbed swyddi yn Tata Steel ym Mhort Talbot, yn wyneb yr ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol y gwaith dur.

Yn y Senedd yr wythnos hon gofynnodd Ms Williams i Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, am fanylion yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i achub y swyddi hynny.

Mewn ymateb, nododd Mr Gething fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cael sgwrs â Llywodraeth y DU, ond ni roddodd unrhyw fanylion am eu cynlluniau.

Tynnodd Ms Williams sylw at y ffaith bod yr ansicrwydd ynghylch dyfodol y gwaith dur yn golygu bod rhai gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i chwilio am gyflogaeth arall, a dywed fod yn rhaid i gynllun Llywodraeth Cymru fanylu ar sut i arbed swyddi a hefyd cadw sgiliau o fewn y gweithlu.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae’r bobl yn y rhanbarth rydw i’n ei gynrychioli yn wynebu blwyddyn newydd hynod o galed. Wrth i’r gweithwyr a gyflogir yn Tata Steel, eu teuluoedd, y rhai yn y dref a’r cymunedau cyfagos edrych ymlaen, mae’r darlun yn dal i fod yn un o ansicrwydd ofnadwy, gofid a phryder dwfn.

“Does dim newyddion cadarn o hyd, dim arwydd clir o’r hyn sy’n mynd i ddigwydd yn y flwyddyn nesaf i’r gweithwyr medrus hyn a’u teuluoedd, ac mae llawer yn cael eu gorfodi i chwilio am waith arall er mwyn cael sicrwydd y byddan nhw’n gallu parhau i dalu eu biliau a darparu ar gyfer eu hunain a'u teuluoedd.

“Nid oedd Gweinidog yr Economi yn gallu darparu unrhyw wybodaeth fanwl am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i achub y swyddi hynny yn ardal Port Talbot. Yr ateb bob amser gan Lywodraeth Cymru yw bod angen i Gymru aros am Lywodraeth wahanol yn San Steffan.

“Yn gyntaf, gyda Starmer yn cerdded yng nghysgod Sunak pan ddaw’n fater o’r economi, iechyd, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a sicrhau tegwch i Gymru, does fawr o arwydd y bydd newid yn San Steffan o las i goch yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r pryderon sydd gan fy etholwyr. Yn ail, ni all y gweithwyr aros mor hir â hynny.”

Yn ôl