logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Penderfyniad i wrthod Canolfan Bancio Pontardawe

Nid yw'r penderfyniad i wrthod canolfan bancio Pontardawe "yn ystyried yr holl ffeithiau"

25.07.2025

Sioned Williams AS yn herio asesiad LINK nad oes angen darparu gwasanaethau arian parod ychwanegol yn sgil cau’r banc diwethaf yng Nghwm Tawe

Mae Sioned Williams yn sefyll tu allan i fanc Lloyds ym Mhontardawe

Mae Sioned Williams yn sefyll tu allan i fanc Lloyds ym Mhontardawe

Mae Sioned Williams AS wedi ysgrifennu at LINK i herio eu dyfarniad na fyddai angen gwasanaethau arian parod ychwanegol ym Mhontardawe ar ôl cau cangen Lloyds – y banc olaf yng Nghwm Tawe.

Ar ôl i Lloyds gyhoeddi y byddai eu cangen yn cau ym mis Tachwedd, cynhaliodd LINK asesiad o'r gwasanaethau arian parod a fyddai ar gael ar stryd fawr Pontardawe a chadarnhaodd y byddent yn diwallu anghenion y gymuned.

Er gwaethaf gwrthwynebiad i'r penderfyniad hwnnw, a llawer o alwadau gan y gymuned am Hwb Bancio, mae LINK wedi cadw at eu hasesiad gwreiddiol, ac felly mae Ms Williams wedi llunio pecyn o dystiolaeth ategol i ychwanegu at ei her i’r penderfyniad, sy'n cynnwys nifer o lythyrau gan fusnesau lleol, elusennau, cynghorwyr, trigolion a'r clwb pêl-droed lleol.

Mae her Ms Williams yn rhoi ffocws i’r “realiti llawr gwlad” sy'n cynnwys y pellteroedd gwirioneddol rhwng Pontardawe a chymunedau cyfagos, y rhwystrau ymarferol i bobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, lleoliad ATMs, nifer y busnesau a gydnabyddir gan LINK, a’r ffaith bod cymaint o fusnesau yn y dref yn dibynnu ar ddefnydd o arian parod.

Er bod Banc Lloyds wedi addo ‘Banciwr Cymunedol’ i Bontardawe a fydd yn darparu cymorth wyneb yn wyneb, ni fydd y gwasanaeth hwn yn gallu ymdrin â thrafodion ariannol, ac mae Lloyds wedi nodi mai dim ond unwaith y pythefnos y byddai hyn ar gael ym Mhontardawe.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru:

“Pan asesodd LINK Bontardawe yn sgil y newyddion y bydd Banc Lloyds yn cau – y banc olaf yng Nghwm Tawe – fe wnaethon nhw ddod i’r casgliad bod digon o wasanaethau bancio gerllaw. Mae hwn yn benderfyniad yr wyf yn dal i’w herio ar ôl clywed y teimladau a fynegwyd yn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliais, mewn sgyrsiau gyda thrigolion a busnesau lleol, ac oherwydd mai dyma fy nhref a’m banc, ac felly rwy'n gwybod yn iawn nad yw'r dewisiadau amgen a awgrymir gan LINK yn rhai ymarferol.

“Mae llawer o’n busnesau lleol yn gweithredu drwy ddefnydd arian parod yn unig, ac mae'n debyg y bydd eu gorfodi i deithio i Gastell-nedd i wneud eu bancio yn gofyn iddynt gau eu siop am gyfnod estynedig o amser, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd unrhyw un sydd wedi ceisio gwneud y daith o Bontardawe i Gastell-nedd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn gwybod mai dim ond un llwybr bws sydd yna, y 256, sy'n rhedeg dim mwy na 10 gwaith y dydd, gyda bwlch mawr yn y prynhawn. Mae gen i bryderon hefyd am y nifer isel o fusnesau a ystyriwyd gan LINK with dod i’w casgliad.

“Nid yw asesiad LINK 'chwaith yn ystyried y gymuned ehangach a fydd yn cael eu heffeithio gan gau'r banc – gan gynnwys trigolion pentrefi a threfi cyfagos fel Rhos, Clydach, Gwaun-cae-Gurwen, Cwmllynfell ac Ystalyfera.

“Er nad yw pobl Pontardawe a’r ardal ehangach yn gwadu bod gwasanaethau bancio yn newid, y cyfan maen nhw – a minnau – yn gofyn, yw bod eu cais am ganolfan bancio yn cael ei ystyried yn briodol ac yn llawn gyda sylw i'r realiti ar lawr gwlad.”

Yn ôl