logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Naturiaethwr mwyaf Prydain

Naturiaethwr mwyaf Prydain

20.01.2023

Yn gynharach yr wythnos hon cefais gyfle i rhoi teyrnged i Alfred Russel Wallace, a aned y mis hwn 200 mlynedd yn ôl ac y newidiodd ei syniadau’r byd.

Wedi'i eni ger Brynbuga, treuliodd lawer o'i fywyd cynnar yn Lloegr a symud yn ôl i Gymru i weithio fel syrfëwr yng Nghastell-nedd. Yn ystod ei amser hamdden, datblygodd ei weithgareddau gwyddonol, ac, yn ei hunangofiant, cyfeiriodd at yr effaith a gafodd ei amser yng Nghastell-nedd arno, gan ddyfnhau ei ddiddordeb yn y byd naturiol, gan ddweud,

'Ni allaf ddwyn i gof un cwm sydd yn yr un maint o dir yn cynnwys cymaint o olygfeydd hardd a phrydferth, a chymaint o nodweddion arbennig diddorol, â Chwm Nedd.'

Yn dilyn ei amser yng Nghastell Nedd, teithiodd y byd, ac ar ôl dychwelyd cyhoeddodd rai o'i ganfyddiadau. Ysgrifennodd at un o'i arwyr, Charles Darwin, a chyhoeddasant erthyglau ar eu hastudiaethau ar y cyd. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac yn ôl pob tebyg wedi'i ysgogi gan Wallace, cyhoeddodd Darwin On the Origin of Species. Er mai am ei waith ar esblygiad yw'r hyn y mae llawer yn ei gofio amdano, ysgrifennodd Wallace ar lawer o bynciau eraill, gan gynnwys hawliau gweithwyr, y bleidlais i fenywod, perchnogaeth tir a thlodi.

Heddiw, mae'n parhau i gael ei gofio a'i ddathlu. Mae llwybr Alfred Russel Wallace yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnwys llawer o’r lleoedd y bu’n byw, ymweld â nhw neu’n gweithio ynddynt yn ystod ei gyfnod yno, gan gynnwys lleoedd fel fferm Bryncoch, Mynachlog Nedd, Rheilffordd Cwm Nedd, rhaeadr Melin-cwrt a sefydliad mecaneg Castell-nedd. Yn ddiweddar, bu Theatr na nÓg, cwmni o Gastell-nedd, yn coffau Alfred Russel Wallace drwy gynnal perfformiadau arbennig o’u cynhyrchiad arobryn o ddrama Geinor Styles You Should Ask Wallace.

Dros ddwy ganrif ar ôl ei eni, mae Wallace yn cael ei ystyried yn haeddiannol fel un o'r meddylwyr mwyaf dylanwadol a fu erioed. Mae Castell Nedd a Chymru gyfan yn hynod o falch ohono.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am lwybr Alfred Russel Wallace 

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am Theatr na nÓg a’u perfformiadau o You Should Ask Wallace 

Alfred Russel Wallace

Yn ôl