My Week 13 - 19 February 2023
20.02.2023
Golwg sydyn ar wythnos brysur arall!

Codais bryderon gyda Llywodraeth Cymru ynghylch effaith torri cyllid gwasanaethau bysiau ar draws Gorllewin De Cymru ac yng Nghastell-nedd Port Talbot yn benodol. AS Plaid yn lleisio pryderon difrifol ynghylch tynnu cyllid bysiau yn ôl - AS Sioned Williams (Saesneg)
Siaradais ar BBC Wales Today a Newyddion S4C am yr angen i fynd i’r afael â phwysau ar wasanaethau cymdeithasol plant ledled Cymru yn sgil llofruddiaeth drasig Logan Mwangi.
Ges i ymweliad gwych â Choleg CNPT i gwrdd â’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Catherine Lewis a’r Is-Bennaeth ar gyfer Cysylltiadau Allanol a Llywodraethiant, Gemma Charnock. Cawsom ni drafodaeth ddiddorol iawn ar rôl allweddol Coleg CNPT yn y gymuned leol a sut mae’n cefnogi’r agenda cynaliadwyedd.
Mewn dadl yn y Senedd, galwais am roi mwy o gymorth ariannol i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel drwy gynyddu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
In a meeting of the Senedd Cross Party Group on Disability we heard more about the importance of habilitation training from Guide Dogs Cymru. I also spoke in favour of ensuring sight impaired children in all parts of Wales get access to this vital service in a debate in the Senedd yesterday.
Es i fore coffi a drefnwyd gan Gysylltiadau Cymunedol Dyffryn Clydach, Castell-nedd i glywed sut mae trigolion yn ymdopi â’r argyfwng costau byw. Mae’r boreau coffi poblogaidd hyn, sy’n cael eu cynnal bob wythnos, yn rhoi cyfle i bobl fwynhau paned a sgwrs gyda ffrindiau a chymdogion. Clywais am waith Cysylltiadau Cymunedol Dyffryn Clydach a’r amrywiaeth eang o bethau maen nhw’n darparu, gan gynnwys nosweithiau celf a chrefft, rhannu bwyd, nosweithiau cwis i’r teulu a llawer mwy. Mae grwpiau gwirfoddol fel hyn yn gwneud gwaith anhygoel ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Cymerwch olwg ar eu tudalen Facebook - Dyffryn Clydach Community Links am fwy o wybodaeth.
Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)