Galwad i liniaru toriadau i Gredyd Cynhwysol - Sioned Williams
06.10.2021
Mae Sioned Williams AS, wedi galw am “weithredu nawr” i liniaru toriadau i Gredyd Cynhwysol, wrth i’r cynnydd o £20 ddod i ben heddiw.
O heddiw ymlaen, fe fydd ryw 275,000 o bobl yng Nghymru sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gweld eu taliadau yn gostwng o £1,040, er gwaethaf rhybuddion eang o’r effaith niweidiol y bydd y toriad yn ei gael ar bobl sy’n byw mewn tlodi.
Wrth siarad yn y Senedd heddiw, dywedodd Sioned Williams fod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â thlodi acdweud bod angen datganoli grymoedd dros lesiant i Gymru.
Ychwanegodd Sioned Williams:
“Daw’r toriad heddiw wrth i gostau byw a chostau ynni cartref gynyddu’n sylweddol yng Nghymru, ac wrth i ragor o bobl gael eu parlysu gan ddyledion. Am dyletswydd i ni helpu pobl Cymru, rhaid iddi weithredu nawr i liniaru effeithiau'r penderfyniad trychinebus hwn ar 275,000 o aelwydydd tlotaf Cymru; byddai methiant i wneud hyn yn golygu ei bod yn ymwrthod yn llwyr â'r cyfrifoldeb sylfaenol hwn.
“Rwy'n galw am ddatganoli grymoedd dros lesiant i Gymru er mwyn i ni allu rhoi chwarae teg i bawb. ”