logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Galw i liniaru effeithiau polisiau dinistriol

Galw ar Lywodraeth Cymru i liniaru effeithiau polisiau

30.05.2023

Wrth ymateb yn ddiweddar i ddatganiad yn y Senedd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, cyfeiriodd Sioned Williams at ystadegau sy’n datgelu sut y mae’r argyfwng yn gwaethygu ac fe anogodd Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i helpu aelwydydd sydd angen cymorth.

Croesawodd Sioned Williams, sy’n llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, mabwysiadiad polisïau Plaid Cymru sy'n anelu i fynd i’r afael â thlodi a'r argyfwng costau byw, diolch i’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Sioned Williams AS:

"Mae adroddiad diweddar gan Barnardo's Cymru wedi tanlinellu maint ac effaith andwyol yr argyfwng costau byw ar deuluoedd a phlant yng Nghymru. Dywedodd 61% o rieni bod eu sefyllfa ariannol wedi gwaethygu yn y pedwar mis diwethaf. Roedd pris uchel bwyd yn un o'r pryderon mwyaf, gyda phobl ifanc yn sôn nad oedden nhw'n gallu fforddio teithio ar gyfer addysg na gwaith, na chwrdd â'u ffrindiau.

"Mae adroddiad newydd yn y The Guardian yn datgelu bod chwyddiant prisiau bwyd ar y drydedd lefel uchaf ers 2008. Mae gan Lywodraeth San Steffan gyfrifoldeb sylweddol iawn am hyn—wrth wrthod sicrhau system les sy'n ffit i bwrpas, wrth wrthod cynyddu’r lwfans tai lleol, ac wrth dorri gwariant ar wasanaethu cyhoeddus nes bod y tyllau yn y rhwyd diogelwch yn golygu bod mwy a mwy o deuluoedd yn syrthio i dlodi ac mewn argyfwng.

“Rwy’n falch iawn bod cyflwyno prydau ysgol am ddim i blant ysgolion cynradd ac ehangu gofal plant am ddim yn gynnyrch y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

"Yn yr un modd, er bod y Llywodraeth wedi cytuno i gynyddu’r lwfans cynhaliaeth addysg, dywedodd pobl ifanc wrth Barnado’s Cymru bod £20 o’r £40 yna yn cael ei wario ar deithiau ar fysiau, ac felly bod angen cynyddu'r lwfans ac edrych ar fyrder ar gost trafnidiaeth i bobl ifanc."

Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.

Yn ôl