logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Fy wythnos - 9-15 Ionawr 2023

Fy wythnos - 9-15 Ionawr 2023

13.01.2023

Mae wythnos cyntaf y flwyddyn newydd yn y Senedd wedi bod yn un prysur gan fod llawer o bwyntiau pwysig i’w codi gyda Llywodraeth Cymru ynghylch yr argyfwng yn y GIG a’r Argyfwng Costau Byw. Dyma rai o’r materion rwyf wedi’u codi.

Gofynnais i’r Prif Weinidog sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r rhestrau aros aml-flwyddyn ar gyfer llawdriniaeth orthopedig a’r amseroedd aros hir yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae etholwr wedi bod yn aros ers *5 mlynedd* am lawdriniaeth ar ei phen-gliniau! Mae tangyllido Cymru gan San Steffan yn broblem enfawr, ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi iechyd.
Gwyliwch ymateb Sioned yn y Senedd i'r mater o restrau aros blynyddoedd.

Nid yw cynllun Llywodraeth Lafur Cymru i ddelio â'r argyfwng yn y GIG yn gweithio. Yn hytrach na beio nyrsys am streicio neu bobl Cymru am beidio â gofalu amdanynt eu hunain yn well, rhaid iddynt ddysgu gwersi eu methiannau eu hunain. Fel mater o frys. Gwyliwch Sioned Williams yn ymateb yn y Senedd, gan ofyn 'Beth yw'r gwersi i Lywodraeth Cymru?

Galwais ar y Gweinidog Addysg i roi mwy o gymorth i fyfyrwyr, a phrentisiaid ar yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid o £4.81 yr awr.

Mae 46% o aelwydydd rhieni sengl yn byw mewn tlodi. Mae 86% o rieni sengl yng Nghymru yn fenywod. Diolch i'r Cytundeb Cydweithio â Plaid Cymru, mae gwaith yn mynd rhagddo i ehangu gofal plant am ddim fel modd o amddiffyn menywod a phlant yn erbyn tlodi a'r argyfwngcostaubyw. Felly, gofynnais i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a ellid cyflymu’r gwaith sy’n cael ei wneud i ehangu gofal plant am ddim drwy’r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru i helpu teuluoedd i ymdopi.
Gwyliwch Sioned Williams yn ymateb yn y Senedd, gan ofyn 'Beth yw'r gwersi i Lywodraeth Cymru?'

Sioned a Mabon gyda dau arall yn dal baner binc CWU

Gofynnais  beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni cydraddoldeb rhywedd mewn llywodraeth leol. Dim ond 36% o'r cynghorwyr a gafodd eu hethol yn yr etholiadau yn 2022 oedd yn fenywod. Mae’n hanfodol bod ein gwleidyddiaeth yn gynrychioliadol o gymdeithas.
Gwyliwch sylwadau Sioned Williams yn y Senedd am gydraddoldeb rhywiol yn Mesur Diwygio'r Senedd.

Cwrddais i â gweithwyr y CWU a ddaeth i'r Senedd i siarad am y rhesymau dros eu hanghydfod â'r Post Brenhinol.

Cyfarfod cyntaf bywiog y flwyddyn newydd o Blaid Cymru Aberafan - lot o syniadau gwych ar gyfer gweithredu ar faterion lleol. Ymunwch â Phlaid Cymru. 

Fe heriais y Llywodraeth Lafur yng Nghymru ar eu polisi iechyd yar raglen Y Byd yn ei Le S4C. Mae Llafur yn dweud: "Allwn ni ddim rhoi'r arian yma i'r gweithwyr achos fydd dim arian ar ôl i glirio'r backlog."Wel, sut allwn ni glirio'r backlog heb y gweithwyr? Y gweithwyr yw'r gwasanaeth iechyd!
Gwyliwch gyfweliad a sylwadau Sioned Williams am weithwyr y GIG..

 

Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)

Yn ôl