logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Fy wythnos 23-29 Ionawr 2023

Fy wythnos 23-29 Ionawr 2023

31.01.2023

Golwg sydyn ar wythnos brysur arall!

Er mwyn mynd i'r afael ag Argyfwng y GIG, dywedodd y Llywodraeth fod angen i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd. Ond dyw hi ddim mor syml â hynny pan fo tlodi'n eich atal rhag fedru gwneud hynny. Mae amddifadedd yn achosi afiechyd ac anghydraddoldebau iechyd, gan gynyddu'r pwysau ar wasanaethau iechyd. Sioned Williams yn gwneud sylwadau ar 'to tackle NHS crisis'. Yn y Senedd cyfrannais i ddadl am Gynllun Pum Pwynt Plaid Cymru i fynd i’r afael ag Argyfwng y GIG, gan bwysleisio’r angen am fesurau iechyd ataliol i leddfu’r pwysau ar wasanaethau. Sioned Williams yn gwneud sylwadau ar 'Our NHS is in #crisis' Darllenwch fwy yma: Plaid Cymru yn lansio Cynllun 5 Pwynt i fynd i'r afael â Argyfwng Iechyd yng Nghymru

Siaradais â Newyddion S4C am fy mhryderon yn wyneb yr honiadau difrifol diweddar o gasineb at fenywod o fewn URC. Fe gwrddais ag Undeb Rygbi Cymru y llynedd i drafod y diffyg cefnogaeth i fenywod yn eu sefydliad. Mae angen i URC, ein holl gyrff cenedlaethol a’n holl weithleoedd wneud mwy i ddileu casineb at fenywod a hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd. Cyfarfu Sioned Williams ag Undeb Rygbi Cymru y llynedd i drafod y diffyg cefnogaeth i chwaraewyr benywaidd (mewn saesneg)

Bues i mewn digwyddiadau i nodi Diwrnod Coffau’r Holocost a galwais mewn araith yn y Senedd i lywodraethau sefyll i fyny yn erbyn casineb o bob math. Roedd yn anrhydedd i gwrdd â Hedi Argent, oroesodd yr Holocost, yn nigwyddiad Coffáu’r Holocost y Senedd heddiw, a chlywed ei hanes torcalonnus a phwysig. Roedd ei stori yn rhybudd mor eglur am sut y gall geiriau arwain at gasineb, a chasineb at drais annynol - ddoe a heddiw. Areithiau gwych hefyd gan Owen a Maisie o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ar eu profiadau a'u myfyrdodau fel Llysgenhadon Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost.

Yn gynharach yr wythnos hon bues i mewn digwyddiad yn y Senedd a drefnwyd gan There and Back Again, sy’n codi ymwybyddiaeth am Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, i gofio pawb a ddioddefodd yn sgil yr Holocost. Heddiw, ar Ddiwrnod Coffáu'r Holocost, cofiwn y chwe miliwn o Iddewon a miliynau o fywydau diniwed eraill a gymerwyd gan y Natsïaid

Rhaid gweithredu bob dydd i sicrhau na fydd erchyllterau o’r fath byth yn digwydd eto, drwy sefyll yn erbyn casineb o bob math. Sioned Williams mewn digwyddiad coffa'r Holocost yn y Senedd yr wythnos hon (mewn saesneg)

Gyda chanlyniadau’r cyfrifiad yn dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru, galwais ar Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol i Dŷ’r Gwrhyd, canolfan Gymraeg Cwm Tawe, sy’n chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo’r iaith. Sioned yn gwneud sylwadau ar ganlyniadau'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg (mewn saesneg)

Cymerais ran mewn uwchgynhadledd Y Felin Drafod yn Abertawe yn trafod sut y byddai Annibyniaeth yn galluogi Cymru i greu dyfodol tecach, gwyrddach.

Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)

collage o ddelweddau o wythnos Sioned

Yn ôl