logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Fy Wythnos - 21-27 Tachwedd 2022

Fy Wythnos - 21-27 Tachwedd 2022

01.12.2022

Wythnos brysur eto! Dyma crynodeb byr  o rai o'r pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yr wythnos hon yn y Senedd ac o gwmpas y rhanbarth.

Galwais ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad annibynnol o wasanaethau plant ledled Cymru, yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar achos trasig Logan Mwangi, 5 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, a gafodd ei lofruddio ym mis Gorffennaf 2021. Darllenwch fwy yma: AS Plaid yn galw am adolygiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn achos Logan Mwangi - Sioned Williams AS (Cymraeg)

Gofynnais i Lywodraeth Cymru pa gymorth ariannol sydd ar gael i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd a darodd Melincryddan, Castell-nedd a sut y byddant yn cefnogi Cyngor CNPT, sydd wedi gwario miloedd o bunnau ar gostau glanhau, i sicrhau gwell fesurau atal llifogydd.  https://fb.watch/h8aHsJtCqy/

Ymunais ag aelodau UCU Abertawe ar y llinell biced ym Mhrifysgol Abertawe i gefnogi eu streic am gyflog teg, pensiynau teg a gwell sicrwydd swydd.

Cwrddais â phrotestwyr ddaeth i’r Senedd i ymgyrchu yn erbyn gormes llywodraeth Iran. Mae'r frwydr dros gyfiawnder, hawliau dynol a chydraddoldeb i fenywod yn frwydr fyd-eang. #MashaAmini

collage o ddelweddau o wythnos Sioneds

Ac roedd yn bleser croesawu Hanna Morgans i'r Senedd yr wythnos hon, fel rhan o'i gwobr am ennill cystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Sefydliad Morgan a drefnwyd gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod yr Urdd, ac a feirniadwyd eleni gan Llyr Gruffydd AS. Mae Hanna, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, wedi bod yn dysgu am fy ngwaith fel AS. Pob lwc yn y dyfodol Hanna!

 

poster cystadleuaeth celf nadolig

Ac yn olaf lawnsiais cystadleuaeth i wahodd pob plentyn oed ysgol gynradd yn siroedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phenybont i gymryd rhan yn fy nghystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig!

Ebostiwch eich llun at sioned.williams@senedd.cymru DYDDIAD CAU 12.12.22

Yn ôl