logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Dolen i'r Hysbysiad Statudol

Dolen i'r Hysbysiad Statudol

12.06.2021

Dyma'r ddolen i'r Hysbysiad Statudol a gyhoeddwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyda'r nod o gau'r ysgolion cynradd sy’n gwasanaethu Godre’rgraig, yr Alltwen a Llangiwg, ac adeiladu  ysgol gynradd enfawr newydd ym Mhontardawe.

https://www.npt.gov.uk/media/15817/statutory-notice.pdf

Mae'r ymgynghoriad ffurfiol hwn ar agor tan 14 Gorffennaf.

Rhaid anfon unrhyw wrthwynebiadau yn ysgrifenedig at y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes (at sylw tîm y Rhaglen Gwella Ysgolion Strategol) yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot. SA13 1PJ neu drwy e-bost at ssip@npt.gov.uk

Hyd yn oed os ydych wedi cyflwyno sylwadau / gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori blaenorol, mae angen i chi gyflwyno gwrthwynebiad o’r newydd er mwyn i'ch barn gael ei chyfrif.

Byddaf yn cyflwyno gwrthwynebiad fel Aelod Rhanbarthol Plaid Cymru yn y Senedd a phreswylydd yn yr Alltwen gan fy mod yn cefnogi barn mwyafrif llethol yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad, sy'n dangos mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd i'r cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd enfawr newydd yn y gymuned y mae i fod i’w gwasanaethu. Mae croeso i chi anfon eich barn ataf ar y mater hwn ond cofiwch gyflwyno'ch gwrthwynebiad eich hun gan ddefnyddio'r manylion uchod, os ydych chi am wneud hynny.
 

Yn ôl