logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Diweddariad: Teledu cylch cyfyng newydd dros dro

Diweddariad: Teledu cylch cyfyng newydd dros dro ar Sgwâr yr Angel

08.07.2022

Yn dilyn sawl achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol, mae'r heddlu wedi gosod teledu cylch cyfyng newydd dros dro ar Sgwâr yr Angel. Bydd yn aros yn ei le nes bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gallu gosod camerâu parhaol. Rwyf i ac eraill wedi cefnogi galwadau gan fasnachwyr lleol i gael camerâu ar y sgwâr, ac rwy’n falch o weld bod y rhain bellach wedi’u gosod. Mae'r rhaglen o welliannau teledu cylch cyfyng yn y broses o gael ei chyflwyno, ac mae mesurau diogelwch pellach yn cael eu cymryd.Fy ngobaith yw y bydd y camau hyn a chamau gweithredu eraill yn helpu i wneud canol tref Castell-nedd yn fwy diogel, croesawgar a bywiog.

Yn ôl