Diweddariad: Bachgen wedi'i arestio
29.06.2022
Hoffwn ddiolch i’r Arolygydd Lindsey Sweeney a phawb a fu’n ymwneud â chanfod ac arestio’r rhai sy'n cael eu hamau o fod yn gyfrifol am ddigwyddiadau troseddol diweddar yn y dref. Rwy’n gobeithio y bydd hyn , a'r newyddion y bydd camerâu dros dro yn cael eu gosod yn Sgwâr yr Angel hyd nes y gellir ailosod teledu cylch cyfyng parhaol yn rhan o raglen adnewyddu teledu cylch cyfyng y Cyngor, yn helpu tawelu meddyliau pawb sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chastell-nedd rywfaint, bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon diogelwch. Bydd fy swyddfa’n parhau i weithio gydag asiantaethau perthnasol i sicrhau bod pryderon yn cael eu clywed, a bod camau'n cael eu cymryd i sicrhau bod Castell-nedd yn parhau i fod yn dref hardd, fywiog a diogel.
South Wales Police Swansea and Neath Port Talbot ar Facebook