logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Cynyddwch gynrychiolaeth menywod mewn llywodraeth leol

Cynyddwch gynrychiolaeth menywod mewn llywodraeth leol

24.01.2023

Yn ddiweddar, fe heriais Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gynyddu cynrychiolaeth o fenywod mewn llywodraeth leol.

Roedd 36% o'r cynghorwyr a gafodd eu hethol yn yr etholiadau yn 2022 yn fenywod—cynnydd o 8% ers 2017, ond ymhell o fod ble ddylem ni fod o ran cydraddoldeb.

Er bod dau gyngor yn gydradd o ran rhywedd, mae'r darlun mewn ardaloedd eraill yn annerbyniol, ble mae cynrychiolaeth menywod mor isel ag 18%.

Galwais felly ar y Llywodraeth i wella cynrychiolaeth menywod mewn llywodraeth leol. Gofynnais yn ogystal am ddiweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth i archwilio dichonoldeb ac opsiynau posib ar gyfer rhannu swydd yn y Senedd fel rhan o'r gwaith ar gyfer Bil diwygio'r Senedd.

Gwyliwch isod:

sioned williams yn y senedd

Yn ôl