Cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: Hughes Report
11.06.2025
Mae'n dros flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad Hughes i'r sgandal rhwyll, a chwe mis ers i mi ofyn i Lywodraeth Cymru amdano ddiwetha. Hyd yma, dyn nhw ddim wedi ymateb i'r adroddiad. Yn y cyfamser, mae bywydau menywod wedi cael eu dinistrio yn sgil y triniaethau a gawsant gyda’r addewid y byddai'n gwella eu bywydau. Gofynnais i'r Gweinidog eto i fynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwn.